'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr': Golwg ar Waith Menna Elfyn

'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr': Golwg ar Waith Menna Elfyn

by Rhiannon Marks
'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr': Golwg ar Waith Menna Elfyn

'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr': Golwg ar Waith Menna Elfyn

by Rhiannon Marks

eBook

$9.49  $10.39 Save 9% Current price is $9.49, Original price is $10.39. You Save 9%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Cyfrol o feirniadaeth lenyddol arbrofol yw hon sy’n cynnig deongliadau amrywiol o waith y bard Menna Elfyn, ac yn rhoi cip inni ar ein hymwneud â llenyddiaeth a’n harferion darllen. Eir ati i gynnig dehongliad ffres o’r gwaith gan arbrofi am y tro cyntaf yn y Gymraeg â dull beirniadaeth epistolaidd, sef cyfres o lythyrau ffuglennol. Dyma hefyd yr astudiaeth estynedig gyntaf o farddoniaeth Menna Elfyn: rhoddir sylw i waith y bardd yn benodol, ond edrychir hefyd ar faterion cyfoes fel cyfieithu, perfformio a marchnata llenyddiaeth yn y Gymru sydd ohoni. Eir ati i herio arferion academaidd trwy droedio’r ffin rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’ er mwyn creu beirniadaeth aml-leisiol a darllenadwy sy’n adlewyrchu natur gymhleth ac amlweddog y broses ddarllen.

Product Details

ISBN-13: 9781783165834
Publisher: University of Wales Press
Publication date: 09/15/2013
Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 288
File size: 1 MB
Language: Welsh

About the Author

Rhiannon Marks is a lecturer in the School of Welsh at Cardiff University, and this is her first volume of literary criticism.

Read an Excerpt

'Pe gallwn, mi luniwn lythyr'

Golwg ar waith Menna Elfyn


By Rhiannon Marks

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2013 Rhiannon Marks
All rights reserved.
ISBN: 978-1-78316-583-4



CHAPTER 1

Diolchiadau


Carwn gydnabod yn y lle cyntaf fy niolch i Brifysgol Aberystwyth am ddyfarnu imi Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig ynghyd ag Ysgoloriaeth Mair Waldo, a'm galluogodd i ganolbwyntio'n llawnamser ar gwblhau'r traethawd ymchwil a oedd yn sail i'r gyfrol hon.

Mawr yw fy nyled i'r ddau a fu'n cyfarwyddo fy ymchwil yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, sef Dr T. Robin Chapman a'r Athro Marged Haycock. Diolch o waelod calon iddynt am fy rhoi ar ben y ffordd ac am eu cyngor doeth a'u hysbrydoliaeth ar hyd y daith. Diolchaf hefyd i'm harholwyr, Dr Angharad Price a Dr Mihangel Morgan, am eu sylwadau treiddgar hwythau.

O ran y broses gyhoeddi, rwy'n ddiolchgar iawn i olygydd y gyfres hon, Yr Athro Gerwyn Wiliams, am ei awgrymiadau, ac i holl staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu gwaith diwyd. Rhaid diolch hefyd i staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am eu cymwynasau a'u cwmnïaeth ers imi ddechrau ar fy swydd yno, ac i'r Athro Sioned Davies am fy rhyddhau o ambell orchwyl a'm galluogodd i baratoi'r gyfrol hon i'w chyhoeddi.

Diolch i Menna Elfyn ac i'r cyhoeddwyr, Bloodaxe Books, am ganiatâd i ailgyhoeddi 'Broits', 'Eira' a 'Cusan Hances'/'Handkerchief Kiss' (cyfieithiad gan Gillian Clarke) o'r gyfrol Perfect Blemish/Perffaith Nam: New & Selected Poems 1995 — 2007 (Bloodaxe Books, 2007). Diolch hefyd i Wasg Gomer am ganiatâd i ailgyhoeddi 'Er Cof am Kelly', Eucalyptus (Gwasg Gomer, 1995); 'Darlleniad Barddoniaeth', Perffaith Nam (Gwasg Gomer, 2005); a 'Colli Cymro' o'r gyfrol 'Stafelloedd Aros (Gwasg Gomer, 1977). Yn ogystal, hoffwn gydnabod fy niolch i Twm Morys am ganiatâd i ailgyhoeddi 'Three Poems with literal translations into English and Notes' (2003).

Mae fy niolch pennaf i'm teulu a'm ffrindiau am eu cefnogaeth barod. Diolch yn arbennig i'm tad, Tom, am rannu â mi ei frwdfrydedd tuag at y Gymraeg a'i llên, ac i'm mam, Janet, a'm chwaer, Eleri, am gadw fy nhraed ar y ddaear gyda'u hanogaeth a'u hwyliogrwydd — ac am gynnig prynu stampiau imi. Ac yn olaf, diolch i'm cariad, Iwan, am ei frwdfrydedd a'i drylwyredd bob amser wrth ddarllen drwy'r gwaith, ac am ei amynedd di-dor pan dreuliwn fwy o amser nag a oedd yn gall ym myd fy nghreadigaeth.


Rhagair

Eir ati yn y gyfrol hon i gynnig dehongliad o waith Menna Elfyn gan ddefnyddio dull beirniadaeth epistolaidd. Cyfres o lythyrau ffuglennol at y bardd ac at ohebwraig ddychmygol ifanc o'r enw Martha a geir yma, sy'n darlunio sut y mae'r broses o ddarllen y farddoniaeth yn datblygu dros gyfnod o amser. Bwriad ategol yw herio arferion gweithiau academaidd trwy gyfuno llais 'beirniadol' a llais 'creadigol' er mwyn creu beirniadaeth aml-leisiog sy'n adlewyrchu natur gymhleth ac amlweddog y broses ddarllen.

Fel traethawd PhD yr ymddangosodd y gwaith hwn yn wreiddiol, a chan ei fod yn codi cwestiynau ynghylch holl gonfensiwn ysgrifennu traethodau o'r fath ac yn mabwysiadu dulliau ffuglennol i wneud hynny, penderfynwyd cadw mor agos â phosib at ffurf y gwaith gwreiddiol.


Y Cyflwyniad


Annwyl Ddarllenydd,

Sut mae? Diolch ichi am gydio yn y gyfrol hon a'i hagor. Wn i ddim beth a'ch denodd ati, ond gobeithiaf y gallaf eich perswadio i barhau i'w darllen. Cydnebydd Salman Rushdie fod i greu testun elfen o hap oherwydd does wybod ble y bydd yn glanio na beth fydd ei dynged. Bydd rhywun yn gobeithio'r gorau wrth ei ollwng i'r byd mawr ond eto, ni ellir bod yn sicr o ddim — 'you've done what you can and you've set it afloat. Now it's up to it to sink or swim.' Rhyw deimlad felly sydd gen i wrth agor hyn o astudiaeth am ddarllen gwaith Menna Elfyn. Wn i ddim ble yn union y bydd y tudalennau hyn yn cyrraedd na chwaith pwy a fydd yn cydio ynddynt ac yn eu dehongli maes o law. Wn i ddim pwy ydych chi, ddarllenydd, ond gallaf fentro dweud ychydig am ba fath o ddarllenydd y gallech chi fod.

Mewn cyfres o lythyrau dychmygol at Menna Elfyn (ie, dyna sydd i ddod), y darllenydd ffuglennol wrth reswm yw'r bardd ei hun, ac efallai fod Menna ei hun newydd agor y cloriau hyn. Os felly, dyma ofyn yn garedig ichi gofio, Menna, mai creadigaeth fy nychymyg a'm chwilfrydedd ydych chi yma. Gyda phob parch, dyfais yw'r 'Menna' hon: cyfrwng imi ofyn y cwestiynau hynny sy'n corddi ym meddwl rhywun wrth ddarllen ond sydd gan amlaf yn cael eu hanwybyddu fel rhai amherthnasol, annheilwng bron.

Mae'n bosibl eich bod chi wedi bod yn arholwyr imi, ac felly'n ddarllenwyr empeiraidd — hynny yw, y sawl y bwriadwyd y gwaith hwn ar eu cyfer yn wreiddiol. Rydych chi eisoes yn gyfarwydd â'r gwaith a ganlyn er pan oedd hi'n ofynnol ichi gloriannu'r llythyrau a cheisio cydbwysedd rhwng canllawiau rheoliadau'r radd a'r rhyddid y gellir yn gyfiawn ei ganiatáu i'r ymgeisydd o ran dulliau gwaith. Croeso'n ôl ichi.

Mae'n fwy tebygol, er hynny, nad ydych wedi darllen y gwaith hwn o'r blaen nac erioed wedi clywed amdano o bosib. Rwy'n dyfalu mai eich diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg neu feirniadaeth lenyddol sydd wedi eich denu at y llyfr ond eto, wn i ddim i sicrwydd. Gallaf fentro cymryd ambell beth yn ganiataol: bod Menna Elfyn yn enw cyfarwydd ichi; ac o bosibl, eich bod wedi darllen rhywfaint o'i gwaith a bod gennych ryw agwedd tuag ato. Mae lle da i dybio hefyd fod cylchoedd ein darllen yn gorgyffwrdd i'r graddau ein bod yn gyfrannog o'r un diwylliant neu'r un diwylliannau llenyddol. Ac fel etifedd yr un gynhysgaeth ddiwylliannol, byddwch wedi dod i gasgliadau mwy neu lai pleidiol ynglyn â darlleniadau amgen.

Wrth ddychmygu fy narllenwyr fel hyn, ofnaf fy mod yn ymdebygu i Lewis Morris ar ddiwedd ei Tlysau yr Hen Oesoedd yn 1735, a ddychmyga ei ddarllenwyr yntau: 'yn wyr a Gwrâgedd mwynion, Diduedd, yn Bobl Garedig, Onest, yn Ewyllysgar i bawb gael rhan o'r Byd yn Gystal a hwythau, yn Caru eu Hiaith au Gwlad, a choffadwriaeth am eu Teidiau au Gweithredoedd Ardderchog.' Rhaid pwysleisio er hynny nad 'Er mwyn y rheini (ag i rheini yn Unig) y Cymerais y boen hon arnaf'!

Wedi dweud hynny, efallai mai un a gydiodd yn y gyfrol hon ar hap gan ddisgwyl rhywbeth arall ydych, a'ch bod yn gofyn, 'Beth yn y byd wnaeth iti benderfynu creu cyfres o lythyrau dychmygol at Menna Elfyn a Martha?' Rwy'n eich dychmygu yn hanner ystyried cau'r cloriau yn awr, wrth sylweddoli mai camgymeriad oedd eu hagor yn y lle cyntaf. Os felly, dyma gynnig esboniad dros ysgrifennu'r fath astudiaeth ymddangosiadol fisâr yn y gobaith y gallaf eich perswadio i barhau gyda mi ar hyn o daith.

Wel, rhaid addef nad oeddwn wedi dychmygu mentro i fyd gohebu dychmygol pan ddechreuais ar hynt fy ymchwil doethurol. Fy mwriad bryd hynny oedd astudio barddoniaeth gyfoes Gymraeg gan fenywod a chynnig dehongliad o'r hunaniaeth a amlygir yn eu gwaith. Yn sgil darllen llyfr dylanwadol Montefiore, a barn Simon Brooks mai '[y] peth mwyaf trawiadol am feirniadaeth lenyddol ffeminyddol hyd at ddechrau'r 1990au yw cyn lleied ohoni sydd ar gael', roeddwn yn chwilfrydig ynghylch y berthynas rhwng ffeminyddiaeth a barddoniaeth ac yn awyddus i ystyried y cysyniad o 'fardd ffeminyddol' yng nghyswllt llenyddiaeth Gymraeg. Yn anad dim, roeddwn am ddarganfod i ba raddau y treiddiodd bwrlwm aildon ffeminyddol y 1970au a'r syniadaethau yr esgorwyd arnynt ym Mhrydain, ar gyfandir Ewrop, yn yr Unol Daleithiau a'r tu hwnt, i farddoniaeth Gymraeg gan fenywod yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif ac ar droad yr unfed ganrif ar hugain.

Sut bynnag, wrth dwrio'n aflwyddiannus mewn nifer o gylchgronau a blodeugerddi dechreuais bryderu mai bodau prin oedd beirdd 'ffeminyddol' per se yn y Gymraeg. Wedi ailfeddwl ac ailystyried deuthum i sylweddoli mai'r diffyg oedd fy null i o ddynesu at destun. Hanner disgwyliwn i gerddi neidio allan yn datgan negeseuon 'ffeminyddol' ac y gellid wedyn gyfosod y testunau llenyddol yn dwt gyda theorïau yn un cyfanwaith rhesymegol. Yn ddelfrydol byddwn yn canfod bod patrwm a datblygiad i'r farddoniaeth a oedd yn cyd-fynd yn gronolegol â datblygiadau syniadaeth ffeminyddol. Ond fel y darganfûm, roedd realiti 'ymchwil' yn wahanol iawn ac yn fwy cymhleth o lawer na'r delfryd a oedd gen i ohono.

I ddechrau, roedd angen ailystyried goblygiadau'r berthynas rhwng 'theori', 'hanes' a 'llenyddiaeth' a hwyrach y dylwn fod wedi ystyried geiriau doeth Ralph Cohen ynghylch hyn o beth dipyn ynghynt:

It should ... be noted that to attempt to connect literary history with theory of the period is to assume that theory and practice are synchronic. But works innovated in a period often have no theory to explain them.


Cefais fy mod, wrth geisio cyfosod y tair elfen, yn tynnu sylw at eu hanallu i oleuo'i gilydd. Dyma bendroni hefyd ynghylch 'ystyr' testun ac ystyried i ba raddau y gellir galw cerdd yn un 'ffeminyddol'. Ai'r bardd piau dweud a yw cerdd yn 'ffeminyddol' ei gogwydd ynteu ai'r darllenydd sy'n darllen cerdd trwy lygaid ffeminyddol ac yn gosod y fath label arni, neu a yw'r ddau yn cyfrannu at y broses o bennu ystyr cerdd? Dyna agor cil y drws ar y berthynas gymhleth rhwng awdur, testun, darllenydd ac amgylchiadau, a dechrau ystyried mai gorchwyl cwbl ofer yw chwilio am Yr Ystyr Derfynol gan ei bod yn gallu newid ar bob darlleniad fel yr honna theorïwyr yn llinach Derrida: 'meaning production is unstable and irreducibly plural, provoking and multiplying undecidability with every reading.'

Dechreuais hefyd amau doethineb y cysyniad o osod 'barddoniaeth gan fenywod' yn gategori i'w ddadansoddi gan fod hyn yn awgrymu, yn gyfeiliornus braidd, fod gwaith y menywod amrywiol yn dod ynghyd yn gyfanwaith unffurf. Mae'n enghraifft o'r hanfodaeth a eilw John Rowlands, yng nghyswllt cenedlaetholdeb 'ordeiniedig', 'yn beryglus o awdurdodol ac adweithiol, ac yn nacáu lluosogedd ac amrywiaeth'. Trwy osod gwaith gan feirdd o fenywod mewn un dosbarth anwybyddir natur ddyrys hunaniaeth rhywun gan ei fod yn awgrymu, i raddau helaeth, mai wrth eu rhywedd yn unig y mae pennu hunaniaethau'r beirdd am mai dyna sail eu gosod yn y dosbarth yn y lle cyntaf. Yn ogystal, fe awgryma fod gwahaniaeth hanfodol rhwng gwaith beirdd o ddynion a gwaith beirdd o fenywod:

not only does it collapse differences between women, it also encourages comparison of women poets with men poets, as though there is some fundamental opposition between them.


Chwiliais felly drwy rai o'r blodeugerddi o farddoniaeth gan fenywod a gyhoeddwyd yn ystod y degawdau diwethaf yng Nghymru a'r tu hwnt, i ganfod cyfiawnhad dros osod gwaith y menywod ynghyd i'w gyhoeddi. Dro ar ôl tro, tebyg oedd yr amcan, sef 'gwneud iawn am ddiffygion y gorffennol', a dangos fod i fenywod le yn y traddodiad barddol: 'It is one of the main objectives of this anthology to prove that the tradition is not, and never has been, exclusively male.' Agenda ffeminyddol hanfodaidd oedd y tu ôl iddynt yn anad dim a dyhead i hawlio lle i fenywod o feirdd.

Yn ei hastudiaeth gymharol ddiweddar, gesyd Jo Gill farddoniaeth gan fenywod mewn categori i'w hastudio. Cydnebydd berygl creu ghetto i farddoniaeth menywod ond cyfiawnha ei hastudio fel cyfangorff drwy ddal bod angen ei gosod ynghyd er mwyn darlunio'r tebygrwydd a'r gwahaniaeth sydd ynddi:

This volume seeks to recognise heterogeneity and to remain alert to the multiplicity of contexts, experiences and forms evidenced in women's poetry. It looks for areas of common ground which, however narrow and meandering, are shared by women's poetry of different periods, cultures and modes.


Serch hynny, wrth eu cymharu fel hyn, a hynny o dan y fath deitl â Women's Poetry, awgryma o hyd fod bardd o fenyw yn wahanol i fardd o ddyn, a bod modd canfod elfennau cymharus mewn barddoniaeth gan fenywod am eu bod hwy'n rhannu'r un rhywedd.

Pwysleisiodd John Rowlands ar ddechrau'r nawdegau fod modd cyfiawnhau'r broses hon o osod gwaith menywod mewn categori ar wahân:

Sawl tro y clywsom haeru mai nonsens yw i ferched ymgasglu'n un haid y tu mewn i ghetto eu blodeugerddi hwy'u hunain? ... Brysied y dydd pan na fydd angen i ferched ymgyrchu ar lwyfan ar wahân i ddynion, ond yn y cyfamser ni welaf fod ganddynt ddewis ond cyhoeddi'u harwahanrwydd.


Aeth chwarter canrif heibio bellach ers sefydlu Gwasg Honno, y 'wasg unigryw a oedd yn atebol i anghenion merched Cymru', ac ers cyhoeddi'r cyfrolau Cymraeg a fu'n chwyldroadol yn eu cyfnod: Hel Dail Gwyrdd (1985) a rhifyn arbennig Y Traethodydd (1986). Yn y cyfamser cyhoeddwyd amryw flodeugerddi eraill, gwelwyd colofnau penodol ar lenyddiaeth gan ferched ac i ferched mewn ambell gyfnodolyn a chylchgrawn, a datblygwyd nifer o gyrsiau prifysgol ar 'lenyddiaeth merched' ac astudiaethau rhywedd. Tybed a ddaeth yr adeg felly i ailystyried yr angen i osod menywod mewn categori ar wahân a 'chyhoeddi'u harwahanrwydd'?

Mewn darlith gymharol ddiweddar dan y teitl 'I am not a woman writer', cyhoeddodd Toril Moi fod dirfawr angen symud oddi wrth y pwyslais cyson a roddir ar rywedd awdur, gan awgrymu bod angen datblygu disgyrsiau ffeminyddol newydd. 'Is it always in the feminist interest to read women writers as women writers?' holodd. Er na fentra ddweud i ba gyfeiriad y gellid mynd â disgyrsiau o'r fath, pwysleisia fod gwir angen ailasesu'r modd yr ystyriwyd rhywedd yn y gorffennol a chreu disgyrsiau newydd a fyddai'n cydfynd yn well â'r oes sydd ohoni. Yn hytrach na rhygnu ymlaen i ddilyn cwys hanfodaidd ei sail, felly, awgrymodd y dylid arbrofi â dull newydd o ddarllen.

Yng nghyswllt llenyddiaeth Gymraeg, ac yn arbennig ei barddoniaeth, dechreuais dybio ei bod hi'n hen bryd ailystyried goblygiadau 'bod yn fardd o fenyw', chwedl Menna Elfyn. Er i 'The Woman Poet' fod yn destun cerdd gan Hilary Llewellyn-Williams, dechreuais bendroni a oedd hi'n bodoli mewn gwirionedd ynteu ai myth neu gymeriad chwedlonol o fath oedd y cysyniad o 'fardd benywaidd' neu 'farddones'? Wedi'r cyfan, clywais lu o ragdybiaethau ynghylch canu gan fenywod: er enghraifft, bod ganddynt obsesiwn ag ysgrifennu am eu cyrff neu fod eu gwaith yn llawn emosiwn ac yn 'hysterical, melancholy, solipsistic and technically inferior'. Ond tybed ai mythau wedi eu creu gan ddynion a chan ferched eu hunain sy'n andwyo delwedd bardd o fenyw yw'r fath honiadau?

Canlyniad fy anfodlonrwydd â rhyw fel hanfod oedd amau dadansoddiadau hanfodaidd o bob math, nid yn unig am fy mod yn eu cael yn annigonol ond am eu bod, ar lefel fwy gwaelodol, yn anfoddhaol. Er mor ddadlennol y gallant fod, nid oedd darllen testunau fel cynnyrch dosbarth cymdeithasol, hil, rhywioldeb neu fel adlewyrchiad o gyfnod neu gyflwr gwleidyddol, gan gorlannu llenorion a gweithiau, yn cyfleu cymhlethdod fy mhrofiad i fel darllenydd.

Yn y pen draw, deuthum i'r casgliad mai'r peth gorau fyddai canolbwyntio ar waith un fenyw yn benodol a'i astudio'n drylwyr er mwyn dadansoddi i ba raddau y mae rhywedd bardd yn effeithio ar farddoniaeth a gynhyrchir ganddi [sic]. Y dewis amlwg i mi oedd Menna Elfyn: yn rhannol am fy mod yn cael blas ar ddarllen ei gwaith ond hefyd am mai ei gwaith hi, yn anad gwaith unrhyw fenyw arall, a gynigiai fwyaf o gyfle i ymchwilio i'r berthynas amlweddog hon rhwng rhywedd a barddoniaeth a'm hymateb iddi fel menyw fy hunan. Wedi'r cyfan, fe'i cysylltir yn aml, yn gam neu'n gymwys, â ffeminyddiaeth, pa beth bynnag yw'r term ymbarél amwys hwnnw — ffeminyddiaethau sy'n gyffredin bellach — yng Nghymru ac fe'i cyfrifir yn genhades ysgrifennu 'benywaidd'. Fe'i henwyd yn 'Wales's best known feminist poet', ac fe ddywedodd Ceridwen Lloyd-Morgan amdani:

Mae'n anodd meddwl am unrhyw fardd arall yn y Gymraeg sydd wedi gwneud cymaint â Menna Elfyn i gyfleu a dadansoddi profiadau a theimladau merched.


Fe'm cymhellwyd gan reswm elfennol arall. Er bod Menna Elfyn yn llenor toreithiog — cyhoeddodd eisoes saith cyfrol o farddoniaeth yn Gymraeg, casgliad o gerddi a gyfansoddwyd rhwng 1976 a 1990, a phum cyfrol ddwyieithog — ni chafwyd astudiaeth gyfansawdd o gorpws ei gwaith. Do, tynnwyd sylw at y modd yr ymdrinnir â rhywedd yn ei gwaith gan M. Wynn Thomas a Katie Gramich, ond, ac eithrio adolygiadau lu mewn cylchgronau a chyfnodolion, pennod gan Robert Rhys mewn cyfrol o ysgrifau beirniadol ar feirdd Cymraeg diweddar yw'r ymdriniaeth fwyaf estynedig o'i gwaith hyd yn hyn yn Gymraeg. Ac amlinelliad digon dilornus ydyw ar y cyfan: er ei fod yn cydnabod bod i farddoniaeth Menna Elfyn 'ffresni pynciol', tynnu sylw at yr hyn a wêl ef yn ddiffygion yn ei gwaith a wna yn anad dim gan ddifrïo'r 'farddoneg fenywaidd anghynganeddol'. Mynega amheuaeth gref ai cymwys 'gosod y bardd yn ddidrafferth ymysg rheng flaenaf beirdd Ewrop', cyn tynnu sylw (amherthnasol, i'm tyb i) at y ffaith na fu'r bardd yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, fel petai hynny'n warant o ddiffyg 'safon' ei gwaith llenyddol.

Fy mwriad yn y gwaith a ganlyn yw cloriannu gwaith Menna Elfyn trwy gynnig dehongliad amgen sy'n darlunio'r broses ddarllen. Fel y dywed Susan Noakes: 'there is not just one way to read ... reading (whether one recognizes it or not) is always a process of investigating and making choices'. Mae cenadwri yn fy ngwaith hefyd, rhaid addef. Honna Noakes fod sylweddoli pwysigrwydd darllen amgen yn fodd i ennill lle mwy canolog i farddoniaeth:

The development of [the] ability to discuss not just what one reads but the prior question of how one reads is of capital importance to a culture that wishes to see itself as founded on the effort to reach consensus ... It follows that if the hermeneutic awareness of the members of a society is carefully cultivated, as they are taught alternative means of making choices in the reading of all sorts of verbal structures from sonnets to speeches, they will be better able to contribute to the evolution of an enriched consensus. And, perhaps, the poets will no longer find themselves banished to the margins of the republic.


(Continues...)

Excerpted from 'Pe gallwn, mi luniwn lythyr' by Rhiannon Marks. Copyright © 2013 Rhiannon Marks. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Contents

Diolchiadau,
Rhagair,
Y Cyflwyniad,
Yr Ohebiaeth,
Ôl-Nodyn,

From the B&N Reads Blog

Customer Reviews