Cymraeg yn y Gweithle

Cymraeg yn y Gweithle

by Rhiannon Heledd Williams
Cymraeg yn y Gweithle

Cymraeg yn y Gweithle

by Rhiannon Heledd Williams

eBook

$17.99  $23.39 Save 23% Current price is $17.99, Original price is $23.39. You Save 23%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Yn sgil y Mesur Iaith a’r Safonau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, mae mwy o alw nag erioed am weithwyr proffesiynol dwyieithog yng Nghymru heddiw. Dyma lawlyfr ymarferol sydd â ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle, er mwyn ymestyn sgiliau iaith yn bennaf mewn cyd-destunau penodol a dulliau ymarferol. Mae’r gyfrol yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith neu’n dymuno magu hyder wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Ceir yma gyfarwyddiadau, enghreifftiau a phatrymau i’w hefelychu, tasgau ac ymarferion a phwyntiau trafod. Nid cyfrol ramadeg yw hon, ond llawlyfr hylaw sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun proffesiynol – canllaw defnyddiol ar gyfer gweithlu cyfoes yr 21ain ganrif.

 I ddarllen erthygl Rhiannon Heledd Williams am ei chyfrol, ewch at wefan Parallel.Cymru https://parallel.cymru/rhiannon-heledd-williams-cymraeg-yn-y-gweithle/

 

 


Product Details

ISBN-13: 9781786832788
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 07/15/2018
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 288
File size: 1 MB
Language: Welsh

About the Author

Unrhyw un sy’n rhugl ar y cyfan yn y Gymraeg, ond o bosib yn ddihyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol. Addas ar gyfer: disgyblion ysgol (TGAU ymlaen), israddedigion, graddedigion, dysgwyr Cymraeg i Oedolion (Canolradd / Uwch / Hyfedredd), aelodau staff mewn gweithleoedd dwyieithog, athrawon, darlithwyr, tiwtoriaid.

Read an Excerpt

CHAPTER 1

PENNOD 1: HYSBYSEBION SWYDD

Mae'r adran hon yn cynnwys enghreifftiau o hysbysebion swydd amrywiol sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg. Maent yn dangos i'r sawl sy'n chwilio am swydd yr ystod eang o yrfaoedd sy'n gofyn am y gallu i weithio'n ddwyieithog, a chynigir templed ar gyfer yr unigolion sy'n gorfod llunio hysbyseb fel rhan o'u gwaith. Gellir canfod rhagor o hysbysebion trwy edrych ar y gwefannau a ganlyn:

www.lleol.cymru

www.golwg360.cymru

www.swyddle.com

www.safleswyddi.co.uk

Isod, ceir canllawiau ar sut i lunio hysbyseb, ac mae geirfa a phatrymau defnyddiol yn yr atodiad 'Iaith' yng nghefn y llawlyfr. Gall y pwyntiau trafod a'r tasgau fod o ddefnydd i'r darllenydd wrth ystyried sut i fynd ati i greu hysbyseb, neu gellid eu defnyddio fel sail i weithgareddau dosbarth ac ymchwil pellach. Ceir patrymau defnyddiol yn yr atodiad (gw. adran 6(i) a (iv)).

Fel arfer, mae tair rhan i hysbyseb swydd:

1 Disgrifiad cryno o'r swydd.

2 Rhestr fanwl o ddyletswyddau/cyfrifoldebau er mwyn cyflawni'r swydd.

3 Manyleb person (rhestr o nodweddion hanfodol a dymunol yn disgrifio'r math o berson sydd ei angen ar gyfer y swydd).

Gall yr hysbyseb hefyd gynnwys gwybodaeth am gefndir y sefydliad, ei werthoedd a'i genhadaeth, pwrpas neu ddiben y swydd, ei chyddestun a thelerau neu amodau'r swydd – er enghraifft, hawliau, gwyliau, manylion y tîm/adran waith y cyflogai, ac i bwy y bydd yn atebol.

(i) Swydd-ddisgrifiadau

Canllawiau: llunio hysbyseb swydd

• Manylion: teitl y swydd, cyflog, lleoliad, cytundeb, telerau, dyddiad cau, manylion cyswllt ar gyfer gwybodaeth bellach.

• Amlinellu natur/pwrpas y swydd, gan gynnwys braslun o'r dyletswyddau/cyfrifoldebau.

• Disgrifio'r math o berson sy'n gymwys ar gyfer y swydd, neu ddisgwyliadau'r cyflogwr ar gyfer y sawl a benodir.

• Gellir darparu cefndir y sefydliad yn fras a/neu nodi gyda phwy y bydd y sawl a benodir yn cydweithio/yn atebol iddynt.

• Crynhoi nodweddion y swydd.

Canllawiau: dyletswyddau

• Defnyddio amrywiaeth o ferfau i nodi'r dyletswyddau.

• Rhestru dyletswyddau penodol/arbenigol sy'n ymwneud â'r swydd, a rhai mwy penagored sy'n cwmpasu unrhyw ddyletswyddau cyffredinol. Gellir eu blaenoriaethu a'u gosod mewn trefn benodol.

Canllawiau: manylebau person

• Gellir defnyddio categorïau ar gyfer disgwyliadau'r cyflogwr er mwyn blaenoriaethu pa nodweddion perthnasol sydd eu hangen ar gyfer cyflawni'r swydd – er enghraifft, hanfodol/ dymunol/manteisiol.

• Gellir defnyddio penawdau er mwyn gosod anghenion y cyflogwr mewn grwpiau perthnasol – er enghraifft, profiad, gwybodaeth, sgiliau, cymwysterau, hyfforddiant, priodoleddau, rhinweddau, arall.

• Defnyddio amrywiaeth o ansoddeiriau ac ystod o ymadroddion, gan fanylu ar lefel y gallu/profiad/sgiliau angenrheidiol – er enghraifft, 'Mae angen sgiliau cyfathrebu o safon uchel'.

Pwyntiau trafod

• Crynhowch brif nodweddion hysbyseb swydd.

• Dewiswch dair hysbyseb swydd a'u cymharu. Pa un sy'n apelio fwyaf atoch? Eglurwch pam. Sylwch ar y wybodaeth a roddir, patrymau'r brawddegau, strwythur, arddull a geirfa.

• Edrychwch ar ddisgrifiad o un swydd yn unig. Lluniwch restr o ddeg dyletswydd bosibl a deg nodwedd ar gyfer manyleb person a fyddai'n gweddu i'r swydd. Defnyddiwch y penawdau a ganlyn: sgiliau, profiad, gwybodaeth, cymwysterau, rhinweddau personol.

• Dewiswch swydd y byddech yn debygol o ymgeisio amdani a darllenwch yr hysbyseb ar ei chyfer. Ystyriwch bum dyletswydd y byddech yn eu blaenoriaethu ar gyfer y swydd honno, a nodwch ddeg nodwedd bersonol y byddech yn tybio sydd eu hangen ar gyfer y swydd o dan y penawdau hanfodol/dymunol.

• Dewiswch hysbyseb swydd ac ystyriwch addasrwydd pob sgìl ar gyfer y swydd trwy eu gosod yn y categorïau a ganlyn: angenrheidiol, manteisiol, ddim yn angenrheidiol (gellir defnyddio cardiau ar gyfer gêm fwrdd; gw. rhestr o'r sgiliau a'r categorïau yn yr atodiad).

• Edrychwch ar dair hysbyseb swydd. Pam fod angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swyddi hyn?

Tasgau/ymarferion

• Darllenwch hysbyseb swydd o bob un o'r gwahanol wefannau recriwtio Cymraeg a restrir uchod, gan sylwi ar nodweddion pob un.

• Lluniwch hysbyseb swydd sy'n cynnwys disgrifiad byr, rhestr lawnach o ddyletswyddau/cyfrifoldebau a manyleb person llawn.

• Nodwch bum nodwedd sy'n angenrheidiol i gyflawni eich swydd bresennol/yn y gorffennol.

• Edrychwch ar dair hysbyseb swydd: crynhowch y nodweddion y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan sylwi ar sgiliau, profiad a chymwysterau.

• Mae nifer o swyddi yn cynnig gwersi Cymraeg yn y gweithle.

Dewiswch un gweithle, a pharatowch wers ail iaith iddynt (30 munud o hyd) neu gyflwyniad ar bwynt gramadegol penodol (10–15 munud). Ystyriwch y patrymau iaith a geirfa a allai fod yn ddefnyddiol i'r gweithle hwn yn benodol.

• Cywirwch yr hysbyseb swydd isod:

Ysgol Llanycil – swydd gwag

Rydym yn chwilio am athro/athrawes feithrin erbyn y 15eg o Medi.

Mae'r ysgol yn chwilio am rywun Sydd yn medru'r iaith Cymraeg, ond siaradir Saesneg yma hefyd. Mae angen sgiliau cyfathrebu dda.

Dylid ddysgu nifer o bynciau.

Swydd am ddwy flwyddyn i ddechrau.

Am wybodaeth bellach a ffurflen cais cysylltwch a prifathrawes yr ysgol.

Ceisiadau gan athrawon profiadol yr unig.

Enghreifftiau

SYLWCH sut mae'r hysbyseb yn blaenoriaethu'r nodweddion pwysicaf sydd eu hangen ar gyfer cyflawni'r swydd.

Arbenigwr Materion Cymreig Ty'r Cyffredin

Ty'r Cyffredin

Mae tua 2,500 o bobl yn gweithio tu ôl i'r llenni yn Nhy'r Cyffredin, yn cefnogi'r broses ddemocrataidd mewn amryw o ffyrdd. Rydym yn wleidyddol ddi-duedd ac yn falch o'r gwerthoedd a'r weledigaeth sydd yn greiddiol i'n gwaith, gan gefnogi democratiaeth seneddol sy'n ffynnu.

Mae'r tîm Siambr a Phwyllgorau yn cefnogi busnes y Ty gan gynnig cymorth gweithdrefnol ac ysgrifenyddiaeth i Bwyllgorau.

Arbenigwr Pwyllgor Materion Cymreig

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi'i benodi gan y Ty i archwilio gweinyddiaeth, polisi a gwariant Swyddfa Cymru (gan gynnwys ei berthynas â Chynulliad Cenedlaethol Cymru).

Rydym yn chwilio am Arbenigwr Pwyllgor i ymuno â'r Ysgrifenyddiaeth. Mae'r Arbenigwr yn gyfrifol am gynghori'r Cadeirydd ac aelodau eraill y Pwyllgor dan oruchwyliaeth y Clerc ar wleidyddiaeth a pholisïau Cymreig, cwblhau gwaith ymchwil, drafftio dogfennau briffio, ac yn cefnogi gweithgaredd y Pwyllgor yn ystod ymweliadau diplomyddol a sesiynau tystiolaeth.

Mi fydd disgwyl i'r Arbenigwr fod yn hyddysg ym maes y Pwyllgor ac mae disgwyl iddynt ddatblygu a chynnal cysylltiadau priodol. Mae didueddrwydd gwleidyddol a'r gallu i gynhyrchu gwaith o safon uchel dan bwysau yn hollbwysig.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.

Math o gytundeb: Parhaol. Llawn-amser, 36 awr yr wythnos.

SYLWCH sut mae'r hysbyseb yn blaenoriaethu'r nodweddion pwysicaf sydd eu hangen ar gyfer cyflawni'r swydd.

Swyddog Datblygu'r Gymraeg ym Mhatagonia

Cyflogwr: British Council Cymru

Lleoliad: Patagonia

Disgrifiad: A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu'r Gymraeg ym Mhatagonia?

A ydych chi'n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?

Rydym yn chwilio am athrawon cymwys a phrofiadol i ddysgu plant (meithrin a chynradd yn bennaf) ac oedolion (pob safon) yn ogystal â threfnu gweithgareddau cymdeithasoli iaith ar ran Menter Iaith Patagonia.

Mae'r British Council Cymru yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae'n awyddus i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas y DU ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned. Yn unol â pholisi Amddiffyn Plant y British Council, rhaid i unrhyw benodiad fod yn amodol ar wiriadau trylwyr. Yn y DU, ac mewn gwledydd eraill lle mae systemau priodol yn bodoli, mae'r rhain yn cynnwys gwiriadau cofnodion troseddol.

Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl.

Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig dros gydberthnasau diwylliannol a chyfleoedd addysgol yw'r British Council. Elusen gofrestredig: 209131 (Cymru a Lloegr) SC037733 (Yr Alban).

CYMDEITHAS CYMRU–ARIANNIN

Sut i ymgeisio

Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, cysylltwch â'r British Council Cymru gan ddefnyddio'r manylion isod.

SYLWCH Mae nifer o hysbysebion swydd yn pwysleisio eu polisi cyfle cyfartal. Hefyd, ystyriwch sut mae'r cwestiynau yn ehangu'r apêl i'r darllenydd trwy ddefnyddio arddull mwy personol ac uniongyrchol.

Rheolwr Cymru

Postiwyd gan: Wici Cymru a Wikimedia UK

Dyddiad Postio:

Dyddiad hysbyswyd:

Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Reolwr i Gymru i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg a Saesneg yng Nghymru, ac ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd trwy gynllun y prosiect Llwybrau Byw!

Dylai'r Rheolwr fod yn brofiadol mewn: golygu prosiectau Wicimedia (Cymraeg a Saesneg), cefnogi ein gwirfoddolwyr, rheoli personél, gweithio o fewn cyllideb a chyflawni targedau mewn pryd. Bydd y gwaith yn cynnwys penodi a chefnogi hyfforddwyr a threfnu a chynnal sesiynau hyfforddi ledled Cymru.

Mae medru siarad Cymraeg a Saesneg rhugl yn hanfodol.

Mae'r swydd am ddeuddeg mis a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei secondio i Wici Cymru a fydd yn goruchwylio'r gwaith (ar y cyd gyda WMUK, y cyflogwr) a Llywodraeth Cymru fel cyd-noddwr.

Mae'r swydd hefyd yn amodol ar ganllawiau a chytundebau WMUK ac am 4.5 diwrnod yr wythnos.

Ffurflen gais a rhagor o wybodaeth oddi wrth: www.wikimedia.org.uk

SYLWCH sut mae ychwanegu ebychnod yn peri i'r swydd swnio'n gyffrous.

(ii) Dyletswyddau a Manylebau

Gellir canfod rhagor o enghreifftiau ar y gwefannau a restrir uchod.

Enghraifft

Disgrifiad swydd

Y swydd: Swyddog Prosiect Cymru–Tsieina (Rhan-amser, 2 ddiwrnod yr wythnos o Ionawr hyd at Medi 2018)

Gradd y cyflog: C

Tîm: Tîm Datblygu'r Celfyddydau (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru)

Atebol i: Pennaeth (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru)

Lleoliad: Hyblyg – gall weithio o unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor Celfyddydau

Cyngor Celfyddydau Cymru

Elusen annibynnol yw Cyngor Celfyddydau Cymru, a sefydlwyd trwy Siarter Frenhinol ym 1994. Rydym yn Gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a phenodir ei aelodau gan Lywodraeth Cymru.

Gan Lywodraeth Cymru y cawn y rhan fwyaf o'n harian. Rydym hefyd yn dosbarthu arian o'r Loteri Genedlaethol ac yn codi arian ychwanegol ar gyfer y celfyddydau pan fo'n bosibl o amryw ffynonellau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mawr yw ein huchelgais dros gelfyddydau Cymru. Mae gennym weledigaeth ar gyfer Cymru greadigol lle y mae'r celfyddydau wrth wraidd bywyd a llesiant y genedl, gan wneud Cymru'n lle cyffrous a bywiog i'w thrigolion, ei gweithwyr a'i hymwelwyr. Dibynna llwyddiant ein gweledigaeth ar ddychymyg a chreadigrwydd ein hartistiaid, safon eu gwaith a'r ymdrechion a wneir i gyrraedd cynulleidfaoedd a'u hysbrydoli. Gweithiwn i greu amgylchedd lle y gall artistiaid uchelgeisiol a mentrus dyfu a ffynnu, a lle y gall cynifer o bobl â phosibl – o'r ystod ehangaf o gymunedau – gymryd rhan yn y celfyddydau.

Ein gwerthoedd

Rydym yn gorff cyhoeddus a ariennir gan y trethdalwr. Fel y cyfryw, mae disgwyl i ni gynnal y safonau uchaf o ran bod yn atebol ac yn agored. Mae ein Cod Ymddygiad Gorau yn diffinio'r safonau hyn.

Mae'r cyhoedd yn mynnu bod y sefydliadau y mae'n eu hariannu yn gweithredu'n effeithlon ac yn effeithiol. Darparu gwerth am arian yw un o'm hystyriaethau allweddol.

Rydym yn gwerthfawrogi creadigrwydd ac arloesedd hefyd. Mae ein staff yn gweithio'n aml gyda'i gilydd mewn grwpiau a thimau i gyflawni ein rhaglenni gwaith. Rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar gydweithio hyblyg ac yn cefnogi'n staff i feithrin a datblygu'r sgiliau hyn.

Y swydd

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn annog ac yn cefnogi cydweithio rhyngwladol trwy ganfod cyfleoedd creadigol a'u datblygu. Mae'r tîm yn rhoi cyngor a chymorth i artistiaid a sefydliadau celfyddydol sydd am ddatblygu partneriaethau a marchnadoedd newydd ar lefel ryngwladol. Maent hefyd yn bwynt cyswllt ar gyfer artistiaid rhyngwladol a sefydliadau celfyddydol sy'n dymuno ystyried cysylltiadau gydag artistiaid sy'n byw yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi'u contractio gan Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Diwylliannol rhwng llywodraethau Cymru a Tsieina a lofnodwyd yn 2015.

Bydd Swyddog Prosiect Cymru–Tsieina yn chwarae rhan allweddol trwy weithio ar y gweithgareddau sydd yng Nghynllun Gweithredu Cymru–Tsieina, gan gefnogi Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Prif gyfrifoldebau

1 Cyfathrebu a rheoli cydberthnasau – cefnogi Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn y gwaith canlynol:

• annog a chefnogi teithiau diwylliannol a chelfyddydol i Tsieina ac oddi yno

• gweithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu a rheoli cydberthnasau gyda broceriaid allweddol rhwng gwledydd Prydain a Tsieina

• gweithio gyda'r tîm Cyfathrebu er mwyn datblygu'r gronfa ddata o randdeiliaid yng Nghymru trwy lwyfannau agored

• sicrhau bod gwybodaeth sy'n cael ei chasglu yn cael ei chofnodi a'i chynnal yn fewnol

2 Rhagor o ymwneud gyda'r agenda Prydain–Tsieina – cefnogi Cyngor Celfyddydau Cymru a'i bartneriaid:

• i ddeall a chymryd rhan mewn rhaglenni a chynadleddau Prydain–Tsieina allweddol

• i ymwneud â'r British Council er mwyn cyfrannu'n weithgar at lwyfan China Now, gyda'r nod o dderbyn gwybodaeth a rhannu gwybodaeth

3 Datblygu capasiti Cymru i ymwneud â Tsieina – gweithio gyda'n partneriaid ar y Grwp Llywio:

• i annog dysgu Mandarin yn y gweithle gan gynnwys ar gyfer staff Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Llywodraeth Cymru sy'n arwain ar y gwaith

• i drefnu a chyfrannu at ddau weithdy ar lefel is-sector fydd yn cynyddu dealltwriaeth ymarferol ac yn datblygu capasiti i weithio yn Tsieina

4 Cyfnewid Sgiliau (gyda Phrifysgol Caerdydd) – goruchwylio'r interniaeth, yn ogystal â'r canlynol:

• cefnogi'r gwaith o recriwtio ail intern o Brifysgol Caerdydd i'w leoli yng Nghyngor Celfyddydau Cymru o fis Ionawr 2018 ymlaen

• cefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglen interniaeth i sefydliadau diwydiannau creadigol a diwylliannol eraill a'i defnyddio fel model ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch eraill

5 Teithiau diwylliannol a masnachol i Tsieina

• arwain ar drefniadau ymarferol ar gyfer taith ddiwylliannol ochr yn ochr â thaith fasnach Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2018

• gweithio gyda phartneriaid a'r tîm Cyfathrebu er mwyn cyfathrebu â'r sector ynghylch teithiau masnach

• cynllunio tuag at daith fasnach ar gefn taith ddiwylliannol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn 2018

6 Ymchwil – ymwneud â Phrifysgol Caerdydd er mwyn cynnal gwerthusiad o weithgareddau a chyhoeddi adroddiad diwedd blwyddyn ar gyfer blwyddyn 2 erbyn mis Medi 2018

7 Dyfarniadau Cymru Greadigol – rhoi cymorth gweinyddol i gynllun Llysgenhadon Tsieina Cymru Greadigol, o gymorthfeydd i ddyfarniadau

8 Rheoli cydberthnasau – sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel wrth ymdrin â'r cyhoedd

9 Dyletswyddau ychwanegol – unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n gyson â'r uchod

Gwybodaeth, profiad a phriodoleddau

Rydym am ddenu pobl i weithio i'n sefydliad sydd â diddordeb yn y celfyddydau, ymrwymiad i egwyddorion gwasanaeth cyhoeddus agored ac atebol, a'r gallu i weithio ag ystod amrywiol o gwsmeriaid. Credwn y dylid gosod y safonau uchaf ymhob agwedd ar ein gwaith. Felly mae pob aelod o'n staff yn llysgennad drosom a disgwyliwn i bawb barchu a chynnal ein henw da.

Ein huchelgais yw bod yn sefydliad arloesol a blaengar. Disgwyliwn i'n staff gydweithio i sicrhau ein bod yn effeithlon, effeithiol a defnyddiol.

Cymerwn yn ganiataol y bydd ein staff yn gymwys i reoli eu gwaith gweinyddu pob dydd ac y byddant wedi magu sgiliau trefniadol da. Felly mae gennym ddiddordeb arbennig mewn staff a all weithio'n greadigol a hyblyg i fynd i'r afael â'r heriau y byddant yn eu hwynebu – staff sy'n flaengar ac egnïol i ffynnu mewn gweithle prysur ac a gaiff foddhad o gyflawni targedau uchelgeisiol ac ymestynnol.

Yn ychwanegol, mae'r rôl hon yn gofyn am yr wybodaeth, profiad a nodweddion a restrir ar y dudalen flaenorol.

SYLWCH ar y defnydd o wahanol ferfau er mwyn cyfleu natur amrywiol y dyletswyddau sy'n rhan o'r swydd, ac ar eu manylder er mwyn cwmpasu union nodweddion y swydd. Ystyriwch hefyd pa mor benodol yw manyleb y person wrth bennu lefel y nodweddion, er enghraifft 'sgiliau cyfieithu rhagorol'. Gellir defnyddio graddfeydd gwahanol ansoddeiriau er mwyn nodi'n union beth a ddisgwylir gan yr ymgeisydd, er enghraifft da, da iawn, ardderchog, o'r radd flaenaf.

(Continues…)


Excerpted from "Cymraeg yn y Gweithle"
by .
Copyright © 2018 USW Commercial Services Ltd.
Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

CYNNWYS Cyffredinol: Llunio Dogfen Broffesiynol Adran 1: Y Broses Ymgeisio am Swydd Adran 2: Tasgau Byd Gwaith Adran 3: Ymarferwyr Proffesiynol Atodiad
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews