Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

by Huw L. Williams (Editor)
Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

by Huw L. Williams (Editor)

eBook

$10.99  $12.99 Save 15% Current price is $10.99, Original price is $12.99. You Save 15%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o’n credoau fel cenedl, sydd wedi profi’n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy’n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dŵr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda’u syniadau pwysicaf wedi’u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy’n cynnig cyflwyniad hygyrch i’r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o’r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglŷn â grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a’r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi’i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o’n credoau fel cenedl.

Product Details

ISBN-13: 9781783168828
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 07/15/2016
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 240
File size: 1 MB
Language: Welsh

About the Author

Darllenwyr lleyg, disgyblion y 6ed, myfyrwyr israddedig ac ymchwilwyr fel ei gilydd.

Read an Excerpt

Credoau'r Cymry

Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol


By Huw Lloyd Williams

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2016 Huw Lloyd Williams
All rights reserved.
ISBN: 978-1-78316-882-8



CHAPTER 1

Gosod yr Olygfa


Syllodd y dyn ifanc ar y rhes o wynebau o'i flaen. Wynebau digon cyfeillgar ar un olwg – ond ar yr union funud hon roedd y gwenu disgwylgar yn mennu dim ar awyrgylch yr ystafell. Roedd y cyflwyniad wedi bod yn weddol lwyddiannus, teimlai (er, doedd dim dal pa feddylu oedd yn mynd ymlaen tu ôl i'r wynebau). Yna, un neu ddau gwestiwn digon penagored a hawdd i'w dilyn. Teimlai mai'r gamp yn y munudau agoriadol yna oedd peidio â dweud gormod – paid rhoi rhesymau iddynt dy ddiystyru –ond eto dweud digon er mwyn sicrhau bod ganddynt reswm i wrando ar barablu di-baid yr hanner awr drachefn. Wel, doedd neb yn cysgu, a dim un ystum o ddryswch neu anobaith – eto.

Teimlai bron ei fod yn ymlacio, ond roedd awgrym o dyndra a gwyliadwriaeth yn hofran yn yr awyr. Yna daeth y cwestiwn a'i hoeliodd i'r unfan. Gwgodd yn ddiarwybod ar y wyneb a'i ofynodd, a gofyn mewn modd braidd yn ddi-hid iddo esbonio'n union yr hyn roedd yn ei holi. Hen ystryw, wrth gwrs, er mwyn ennill ychydig o amser, ond yn yr achos hwn roedd wir arno eisiau gwybod beth oedd y tu ôl i'r cwestiwn, rhag iddo ateb mewn rhigymau.

'Beth yw ystyr y cwestiwn? Wel, dydy e ddim yn un cymhleth o gwbl,' meddai'r wyneb yn chwareus, fel petai wedi gofyn iddo am ei dair hoff gân o Gwm-Rhyd-y-Rhosyn.

'Am wybod ydw i beth yw dy farn di ar athroniaeth yn y Gymraeg. Beth y mae'r cysyniad yna'n awgrymu iti? Hynny yw, petai ti'n ysgrifennu, neu'n bwysicach, addysguathroniaeth yn y Gymraeg, pa fath o bethau buaset ti'n ystyried yn bwysig, a sut byddai'n wahanol i athroniaeth yn y Saesneg, neu unrhyw iaith arall yn hynny o beth? Does dim angen ateb hir a myfyriol, dim ond dy argraff di ar y mater.'

Ddim yn gymhleth? Heb angen ateb hir a myfyriol? Mae'n rhaid bod y wyneb yma yn eistedd yn y cyfweliad anghywir i awgrymu'r fath beth – byddai angen o leiaf pythefnos i baratoi am gwestiwn felly. Ond doedd yna ddim golwg aros ar y wynebau, felly rhaid byddai gwneud ei orau. Trwy gyd-ddigwydiad digwydd iddo hel ychydig o amser yn myfyrio ar y cwestiynau yma'n ddiweddar ...


* * *

I raddau helaeth dyma'r union gwestiwn – natur athroniaeth yn y Gymraeg – sydd wedi sbarduno'r gyfrol hon. Nid wyf yn ceisio ateb cynhwysfawr rhwng y ddau glawr yma ychwaith, ond rwyf wedi, mi gredaf, roi cais ar gynnig un fath o ddehongliad a modd o ymateb i'r cwestiwn. Gobeithio imi hefyd gynnig rhywbeth amgenach – yn yr ystyr bod y testun yn ennyn chwilfrydedd a thrafodaeth ar bynciau, hanesion a ffigyrau adnabyddus sydd yn ganolog i'n diwylliant, ac sydd yn parhau (i raddau gwahanol) yn bwysig i'n dealltwriaeth ohonom ni ein hunain fel cenedl. Yn wir, o ystyried bod y genedl honno yn y broses o feithrin egin-gwladwriaeth – ac yn dioddef ei siâr o wyniau tyfiant – mae cloddio ein gorffennol am ddealltwriaeth, ysbrydoliaeth ac arweiniad yn un o'r gweithgar- eddau hynny sy'n hollbwysig o safbwynt cyfoethogi y gyhoeddfa (public sphere – bathwyd y term Cymraeg gan Dr Huw Rees).

Mae hyn yn arbennig o wir mewn cenedl sydd am resymau amrywiol yn gymharol anwybodus am ei hanes hi. Yn wir, wrth ddechrau ar yr addysgu sydd wedi bod yn gynsail i'r gyfrol hon, deuthum yn boenus o ymwybodol o'm hanwybodaeth fi fy hun, a'r modd rydym fel pobl wedi ein hamddifadu o hunanddealltwriaeth mewn modd trwyadl strwythurol. Erbyn hyn, o leiaf, rwyf wedi cyrraedd cyflwr priodol yr athronydd – sef y sylweddoliad o gyn lleied mae rhywun yn ei wybod. Nid ymgais mo hon i geisio gwneud yr amhosib a chyfannu'r holl waith ymchwil nodedig sydd wedi bod yn y gorffennol a chynnig tros- olwg hollwybodus. Yn hytrach ymgais ydyw i edrych ar bynciau cyfarwydd â llygad anghyfarwydd, a'u harchwilio am gynhwysion syniadaethol sydd yn cynnig eu hunain i ddadansoddiad athronyddol.


Arddull

Cyn ymhelaethu yn fyr ar amcanion y llyfr, hoffwn gynnig gair sydyn am ffurf y llyfr. Bydd yn adlewyrchu patrwm yr adran agoriadol hon, sef hanesyn ar ffurf ymddiddan wedi'i ddilyn gan ddadansoddiad – er mi fydd yr hanesion yn hirach a'r dadansoddi'n gymharol fyrrach yn y penodau sydd i ddod. Cyflwynaf felly ffigyrau o bwys hanesyddol a'u syniadau, trwy eu dychmygu mewn trafodaethau gydag eraill. Yna byddaf yn tynnu sylw at yr hyn rwyf yn eu hystyried fel yr agweddau a'r cysyniadau sydd fwyaf diddorol a sylweddol, eu gosod yn eu cyd-destun hanes- yddol, ac yn adlewyrchu arnynt o safbwynt athronyddol.

Un bwriad sydd i'r ymdriniaeth hon yw cyflwyno elfennau ar syniadaeth o'n hanes mewn modd sydd, rwy'n gobeithio, ychydig yn fwy hygyrch a gafaelgar na'r arddull mwy ysgolheigaidd sydd yn arferol mewn testunau ag arlliw athronyddol. Yn hynny o beth rwy'n gobeithio apelio at gynulleidfa ehangach, nad sydd o reidrwydd â diddordeb mewn athroniaeth neu hanes deallusol, ond sydd yn chwilfrydig yngl}n â hanes ein cenedl, ac yn arbennig y syniadau yna sy'n bywiocáu'r safbwyntiau sydd yn rhan ganolog o'r trafodaethau cyfarwydd am Gymru. Trwy hynny, rwyf yn ymwrthod â'r tueddiad i ystyried athroniaeth fel pwnc ffurfiol, academaidd sydd heb le iddo yn ein bywydau pob dydd.

Mae yna draddodiad parchus i'r arddull o gyflwyno syniadau trwy ymddiddan, wrth gwrs, ac mae athroniaeth ei hunan yn cynnig enghraifft amlwg. Os awn yn ôl at y bobl hynny a sefydlodd athroniaeth fel disgyblaeth yn y gorllewin, y Groegiaid gynt, cofiwn fod y mwyaf disglair ohonynt, Platon, wedi cyflwyno nifer helaeth o'i syniadau ar ffurf ymddiddan yn y deialogau Socrataidd, a'i hen athro Socrates yn chwarae rhan yr arwr. Yn achos Platon, wrth gwrs, nid oedd yr arddull yn fodd o symleiddio ei syniadau (fel mae fy myfyrwyr eisoes yn gwybod!), ond does dim dwywaith bod y broses o ddychmygu Socrates yn trafod, ac yn lladd ar y grymoedd roedd yn ystyried mor andwyol i'w Athen, yn bywiocáu athroniaeth i'r darllenydd ac yn ei ganiatáu i'w werthfawrogi yn ei rôl gymdeithasol.

Rwyf yn betrusgar braidd am gyflwyno ffigyrau Cymreig mor adnabyddus yn ôl y dull hwn, ond mae'r pryderon wedi'u lleddfu'n rhannol gan ambell ganfyddiad diweddar. Yn gyntaf o beth roedd yn bleser cael cyfrannu yn ddiweddar at gyfrol yn dwyn y teitl The Return of the Theorists, a'r golygyddion wedi taro ar syniad tebyg. Bwriad y gyfrol honno yw cyflwyno rhai o feddylwyr mawr athronyddol maes gwleidyddiaeth wleidyddol, trwy wahodd cyfranwyr i ysgrifennu deialogau dychmygol gyda'r personau yna – a minnau'n cael cyfle i gyfansoddi ymddiddan gyda fy newis athronydd, John Rawls. Trwy'r gyfrol honno darganfûm draddodiad o'r math destunau ac un enw'n adnabyddus iawn, Walter Savage Landor. Dyma awdur casgliad yr Imaginary Conversations, am ffigyrau sylweddol yr henfyd Roegaidd a Rhufeinig yn arbennig, sydd yn ffon fesur i unrhyw un sydd yn dilyn yn ei ôl traed. Gwn am o leiaf dau destun cyfredol sydd yn ceisio gwneud hynny, felly! Ymhellach, mae arbrofion diweddar awduron megis Rhiannon Marks a Tudur Hallam gyda ffurf eu gwaith academaidd yn gwroli rhywun i lynnu at y weledigaeth wreiddiol.

Prif amcan arall wrth gyflwyno'r cymeriadau a'u syniadau yn y gyfrol hon yw ceisio eu gosod o fewn tueddiadau deallusol ehangach eu hoes. Mae trafod a dadansoddi'r syniadau athronyddol, diwinyddol a gwleidyddol nodedig yn ein hanes yn hollbwysig, ond nid oes modd eu llawn gwerthfawrogi heb ystyried sut maent yn perthnasu gyda syniadau a datblygiadau tu hwnt i Glawdd Offa, ac yn cael eu gweu mewn i'r clytwaith syniadaethol Ewropeaidd. Gwerth pwysleisio yn ogystal nad perthynas unffordd oedd hon o reidrwydd, gyda datblygiadau deallusol o Gymru yn cymell datblygiadau yn ogystal. Mewn ambell achos, yn ogystal, roedd y Cymry dan ystyriaeth eu hunain wedi ymsefydlu mewn tiroedd estron ac yn rhan o drafodaethau rhyngwladol blaenllaw eu dydd. At ei gilydd, felly, dyma bwysleisio y dylem bob tro ystyried y syniadau mawr yna sy'n britho ein hanes ac yn trwytho ein presennol fel rhan o wareiddiad ehangach. Yn wir, mae'n arbennig o bwysig heddiw, am fod cymaint mwy o gyfleoedd i ni'r Cymry gymryd ysbrydoliaeth a swcr o brofiadau a safbwyntiau pobloedd o bedwar ban byd sydd â rhywbeth i ddysgu inni – heb anghofio bod ein profiad unigryw ni yn gallu cynnig cynhorthwy i eraill. Bellach mae bydolygon, cysyniadau ac athroniaethau estron (ond weithiau'n rhyfedd o gyfarwydd) yn agored inni gyda chlic y llygoden.


Athroniaeth Gymraeg?

Dyma ein harwain yn ôl at y cwestiwn lletchwith yna ynghylch natur athroniaeth yn y Gymraeg. I raddau helaeth mae ein perthynas â phriflif athroniaeth orllewinol yn adlewyrchu ein sefyllfa ddaearyddol. Ymhell o'r tarddle, ar gyrion Ewrop, nid yw dylanwad athroniaeth fel disgyblaeth wedi bod yn rymus o safbwynt ein diwylliant.

Un o'r prif resymau am hyn yw'r ffaith bod athroniaeth, i raddau helaeth, wedi bod yn faes sydd yn fwy ynghlwm â'r brifysgol na nifer o'r dyniaethau, a heb y sefydliadau yma tan yn ddiweddar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nid oedd modd i'r pwnc fwrw gwreiddiau sylweddol yma. Ffactor arall oedd, wrth reswm, gafael crefydd ac o ganlyniad diwinyddiaeth ar y genedl, ac i'r cyfeiriad hwn yr anelwyd cryn dipyn o'n hegni deallusol fel pobl. Wrth i'r drafodaeth ddiwinyddol ddatblygu ac ehangu daeth athroniaeth a rhai athronwyr yn rhan bwysicach o'n gorwelion deallusol. Erbyn 1933 roedd Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru wedi'i ffurfio, a esgorodd ar draddodiad bychan, ond grymus, o athronyddu yn y Gymraeg. Ar yr un pryd mae'n bosib gweld bod dylanwadau athronyddol y priflif yn gadael eu hôl ar waith academyddion mewn meysydd eraill – ac yn wir mae gwaith i'w wneud i olrhain y dylanwadau hyn, yn enwedig ym maes llenyddiaeth. O safbwynt y dylanwadau hynny a oedd bwysicaf ym myd athroniaeth mae'n briodol cyfeirio at yr athroniaeth Wittgensteinaidd a ymgododd i gydnabyddiaeth fyd-eang yn Abertawe, ynghyd ag empeiriaeth Brydeinig a drwythwyd ffigyrau megis R. I. Aaron, H. D. Lewis a Meredydd Evans ynddynt, ac yna Farcsiaeth, a ymledodd ei dylanwad i nifer o bynciau eraill.

Tu hwnt i'r tri thraddodiad yma, weddol o denau yw presenoldeb athroniaeth yr academi o fewn ein diwylliant, ond o dan yr amodau nid yw hynny'n syndod. Nid oes modd hawlio athroniaeth Gymreig neu Gymraeg yn yr un modd a, dyweder, athroniaeth Albaneg sydd â gwreiddiau gwydn yn yr Ymoleuad, empeiriaeth ac athronyddu 'synnwyr cyffredin'. Ond pe bai rhywun yn dewis dehongli athroniaeth mewn modd amgen, heb ei chyfyngu i athroniaeth 'bur' neu'r mudiadau deallusol sydd wedi ennill eu plwyf o fewn y prifysgolion, yna agorir cil y drws i'r posibilrwydd o draddodiad athronyddol amgen. O'r safbwynt yma fe welir cyfraniadau 'athronyddol' ar draws ein byd o syniadau, o'r ymarferol gwleidyddol a diwylliannol i'r gwybyddol ac ysbrydol. Yn gryno, unrhyw ymgais i fynd at, neu greu, craidd syniadaethol i'r amryfal orchwylion sydd yn ffurfio ein bywydau, ein perthynas a marwolaeth, a'n perthynas â'r byd annynol.

Un enghraifft felly byddai gwaith Pennar Davies ar lenyddiaeth y Canol Oesoedd. Yn y testun Rhwng Chwedl a Chredo mae'n trafod agweddau ar destunau megis y Mabinogi, ac yn dadlau eu bod yn adlewyrchu bydolwg nodweddiadol y Cymry, yn gyfuniad o Gristnogaeth a phaganiaeth. Dyma ymgais amlwg i ddatgelu egwyddorion gwaelodol sydd wrth wraidd ymagwedd nodweddiadol Gymreig. I bob pwrpas, felly, rwyf am awgrymu yn y llyfr hwn bod yr hyn sydd gennym o safbwynt traddodiad athronyddol ymhlyg gymaint yn ein bywydau ymarferol ag ydyw'n allblyg yn hanes astudiaeth ffurfiol o'r pwnc. Yn sicr, mae modd dadlau dros fodolaeth yr elfennau athronyddol i syniadaeth Gymreig dros y canrifoedd, hyd yn oed os nad ydy'r ddadl dros draddodiad athronyddol gwahanfodol yn tycio.

Y bwriad felly, yn achos pob pennod, yw cyflwyno'r prif syniadau mewn modd hygyrch ond sydd eto'n ceisio gwneud cyfiawnder ohonynt fel 'system' (pa fodd bynnag mor llac) o syniadau sy'n adlewyrchu agwedd athronyddol. I mi dyma fodd o feddwl sydd yn ymgeisio at feddylu trefnus, rhesymegol a rhesymol sydd yn ymdrin â hanfodion pwnc neu wrthrych. Bydd yr un ymagwedd ar waith wrth imi gynnig rhai sylwadau dadansoddol a beirniadol drachefn. Rwyf wedi mynd ati i adnabod y syniadau rheini sydd yn eiddo i rai o ffigyrau mwyaf adnabyddus ein hanes ac sydd iddynt arlliw athronyddol – a cheisio eu crynhoi, dadansoddi a'u gosod o fewn cyd-destun syniadaethol ehangach. Dim ond un ffigwr all gyfrif fel athronydd o'r iawn ryw, fel petai, a hwnnw yw Richard Price – er nad oedd y Gweinidog Undodaidd yma, a oedd yn gyfranwr brwd i foeseg a gwleidyddiaeth ei ddydd, yn rhan o'r sefydliad academaidd fel y cyfryw.

Cychwynnaf gyda'r Brython bron chwedlonol o'r henfyd, sef Pelagius (neu Morgan, i roddi iddo ei enw Cymraeg), pengelyn Awstin Sant, na fyddai – fel ei wrthwynebydd – yn adnabod unrhyw wir fwlch rhwng y diwinyddol a'r athronyddol. Ynghlwm yn eu trafodaeth o'r pechod gwreiddiol mae trafodaeth o anthropoleg athronyddol (hynny yw, y natur ddynol) sydd wedi bod yn gwbl allweddol i ddatblygiad y gorllewin. Yna, rhoddaf sylw i Gyfraith Hywel a gweledigaeth Glyndwr o'r wladwriaeth Gymreig, gan awgrymu ar sail cyfraniadau eraill bod yna safbwyntiau athronyddol pendant ymhlyg ynddynt, sydd yn ddealladwy yn nhermau athroniaeth y gyfraith ac athroniaeth wleidyddol heddiw.

Yn achos athroniaeth foesol a gwleidyddol Price nid yw'n gofyn amlygu'r elfennau athronyddol, wrth gwrs, am ei fod yn cyflwyno'i syniadau oddi mewn i'r traddodiad deallusol prif ffrwd. Nid anodd ychwaith yw mynd i'r afael ag athrawiaeth gymdeithasol a gwleidyddol Robert Owen o safbwynt athronyddol, oherwydd y modd y'u hadeiladir ar gysyniad athronyddol allweddol o natur ddynol. Yn ei ddydd roedd syniadau Owen yn cael eu trafod gan athronwyr adnabyddus fel John Stuart Mill, ac yn wir mae conglfaen ei weledigaeth – penderfyniaeth – yn parhau i fod yn un o bynciau mwyaf di-ildio athroniaeth hyd heddiw. Gyda Henry Richard a David Davies cawn drafodaeth ar y llwybr cywir at gyflwr o heddwch tragwyddol, ac er eu hymarferoldeb mae yna ddigon i gnoi cil arno yn eu gweledigaethau yng nghyswllt traddodiad o 'athroniaethau heddwch'.

Yn y ddau nesaf trof at ddwy athroniaeth wleidyddol sydd wedi derbyn cryn dipyn o sylw negyddol yn ddiweddar. Yn wir, mae'r modd y mae sosialaeth a chenedlaetholdeb yn cael eu trafod bellach yn awgrymu mai ideolegau disylwedd ydynt, y naill wedi'i bwrw i ebargofiant, a'r llall yn annatod beryglus. Nid felly mohono, wrth gwrs, gydag ill dau yn tarddu o athroniaethau anrhydeddus, ac yma mentraf ymgodymi â nhw o safbwynt penodol Gymreig. Aneurin Bevan a Raymond Williams yw'r ddeuawd sy'n cynnig trafodaeth (swreal braidd, cyfaddefaf) ar ffurfiau cyffredinol sosialaeth a'u perthnasedd i Gymru, tra bod Arglwyddes Llanofer, Michael D. Jones a J. R. Jones yn rhan o'r sgwrs gychwynol am genedlaetholdeb Cymreig modern.

At ei gilydd rwyf o'r farn bod y ffigyrau a'r syniadau dan sylw yn cynnig corff o feddwl sydd yn bwysig o safbwynt adnabod traddodiad deallusol Cymreig, ac yn arddangos nad yw ystyriaethau athronyddol wedi bod yn gwbl absennol ynddo. Dichon nad ydynt y math a fyddai'n gynwysedig mewn rhan fwyaf o fodiwlau athronyddol o fewn y brifysgol, yng Nghymru na thu hwnt, ond nid yw hynny'n reswm i'w gwrthod fel cyfraniadau athronyddol. Yn wir, mae yna ddatblygiadau ar droed mewn athroniaeth sydd bellach yn awgrymu ymlediad agweddau a syniadau sydd yn gwthio ffiniau'r maes. Maent yn ymdrechu i ddarganfod lle i draddodiadau amgen y tu hwnt i'r canon gorllewinol canolog, a'r ddwy brif ffrwd 'Cyfandirol' ac 'Eingl-Americanaidd' a ddatblygodd yn yr ugeinfed ganrif (ac mae'r rhwyg diwylliannol ac ieithyddol hwn, gyda llaw, yn ei hun yn brawf o'r ffaith nad yw'n bosib cyfyngu athroniaeth i safbwynt cyffredinol, trosgynnol). Bellach caiff athroniaeth Tsieineaidd, Indiaidd, America Ladinaidd ac Affricanaidd sylw fel meysydd yn yr academi. Yn bwysicach inni yng Nghymru, efallai, yw'r lleisiau amgen sydd yn codi o fewn y traddodiad gorllewinol ei hunan, gan gynnwys athroniaeth ffeministaidd ac athroniaeth ddu.


(Continues...)

Excerpted from Credoau'r Cymry by Huw Lloyd Williams. Copyright © 2016 Huw Lloyd Williams. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

1. Gosod yr Olygfa 2. Natur Ddynol – Pelagius 3. Cyfraith a Gwladwriaeth - Hywel Dda a Glyn Dŵr 4. Y Da, Y Duwiol a’r Gwleidyddol - Richard Price 5. Addysg, Cymuned a Chyfalafiaeth - Robert Owen 6. Heddychiaeth - Henry Richard a David Davies 7. Sosialaeth - Aneurin Bevan a Raymond Williams 8. Cenedlaetholdeb - Lady Llanover, Michael D Jones a JR Jones 9. Diweddglo
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews