Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

by Rowland Wynne
Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

by Rowland Wynne

eBook

$10.99  $12.99 Save 15% Current price is $10.99, Original price is $12.99. You Save 15%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Dyma gyfrol sy’n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gŵr a gafodd ei ddisgrifio fel un o’r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe’i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda’r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na’i gariad tuag at fro ei febyd a’i diwylliant.


Product Details

ISBN-13: 9781786830746
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 06/01/2017
Series: Scientists of Wales
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 192
File size: 3 MB
Language: Welsh

Read an Excerpt

CHAPTER 1

MAE GEN I FREUDDWYD

Pentref bychan yw Cwmsychpant ar y briffordd rhwng Llanbedr Pont Steffan (neu Llambed fel y'i gelwir ar lafar gwlad) a Chastell Newydd Emlyn (yr A475). Rhydd yr enw ddisgrifiad cryno o'r safle gan ei fod yn gorwedd mewn pant heb nag afon na nant, er bod ambell darddell neu ffynnon yma a thraw. Does yna yr un tafarn nac ysgol. Bu siop fechan ar un adeg ond mae honno wedi cau ers amser. Yr unig adeilad cyhoeddus yw'r capel – Capel y Cwm – addoldy sy'n perthyn i'r Undodiaid. Mae Cwmsychpant felly o fewn y Smotyn Du – yr ardal honno yn ne Ceredgion sy'n gadarnle yr enwad yng Nghymru.

I rywun sy'n gyrru ar y briffordd drwy'r pentref prin bod dim i dynnu'r sylw heblaw am y capel a'r fynwent o'i gwmpas. Fodd bynnag, o oedi a chymryd golwg fanylach, fe welir bod plac ar dalcen y tyˆ gyferbyn a'r capel yn coffau y ffisegydd Evan James Williams.

Y ty hwn, Brynawel, yw man cychwyn a diwedd y stori a adroddir yn y llyfr hwn, stori sy'n cyffwrdd a rhai o ddatblygiadau gwyddonol pwysicaf yr ugeinfed ganrif, gan ymestyn o'r endidau lleiaf y gwyddom amdanynt i ffenomenau cosmig. Mae'n arwain hefyd ymhell o Gwmsychpant i leoliadau mor bell a Moscow ar y naill law a Califfornia ar y llaw arall. Yn bwysicach na hyn mae'n stori am wˆ r o allu anghyffredin a oedd yn athrylith yn ei faes ac a ystyrir yn un o'r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed. Roedd hefyd yn wr a ymfalchïodd gydol ei oes yn ei filltir sgwar a'i fagwraeth Gymreig a Chymraeg.

Teulu Brynawel

Ganwyd Williams ar yr wythfed o Fehefin 1903, yr ieuengaf o dri mab James ac Elizabeth (Bes) Williams. Yr oedd James Williams yn hannu o blwyf Llanwenog, lle saif Cwmsychpant, tra ganwyd Elizabeth Lloyd yn Llangfihangel-ar-Arth ym mhlwyf Llandysul. Fodd bynnag, oherwydd marwolaeth ei thad bythefnos cyn iddi gael ei geni symudodd i gartref ei mam-gu a thad-cu yng Nghwmsychpant. I ysgol Llanwenog yr aeth y ddau ac yn sgil adnabyddiaeth pentref ac ysgol daethant at ei gilydd a phriodi yn eu hugeiniau cynnar. Ganwyd y mab hynaf, David, ym 1894 a'r ail, John, ym 1896.

'Dyn llawn yn y gymdogaeth, yn gadarn ei gymeriad a phendant ei farn', yw disgrifiad Goronwy Evans o James Williams yn ei lyfr 'Gwell Dysg na Golud'. Dywed taw 'gwraig serchog yn llawn cyffro a bwrlwm' oedd Elizabeth Williams, 'canolbwynt yr aelwyd a lle bynnag y byddai roedd yna hiwmor a chwerthin'. I Williams, gwr difrifol oedd ei dad, un oedd yn selog ei aelodaeth yng nghapel cyfagos Brynteg. Mynych y dadleuon brwd rhyngddynt ar faterion crefyddol oedd yn cythruddo ei dad ar adegau, yn ol y mab. Ar y llaw arall, o safbwynt crefydd, roedd ei fam yn llai pendant ei barn ac yn fwy goddefol na'i gwr.

Masiwn (saer maen) oedd y tad ac ef, gyda'i frawd yng nghyfraith, a adeiladodd Brynawel. Yn anffodus anafodd y tad ei benglin wrth drin cerrig ac o dipyn i beth gwaethygodd y cyflwr. Yn y pendraw bu'n rhaid torri darn o'r goes i ffwrdd, gan ei orfodi i ddefnyddio coes artiffisial weddill ei oes. Serch hynny cerddai ef a'i deulu bob bore Sul i gapel yr Annibynwyr ym Mrynteg rhyw filltir neu ddwy i ffwrdd, lle roedd James Williams yn ddiacon ac yn drysorydd. Ar nos Sul, aros yn y pentref wnai'r teulu, gan fynychu Capel y Cwm dros y ffordd o'r ty. Darllenid y Beibl yn ddyddiol ac felly roedd crefydd yn rhan annatod o fywyd y teulu.

Mae'n debyg yr ymddiddorai brawd hyˆn James Williams mewn mathemateg; llwyddodd i gael tystysgrif ar gyfer dysgu'r pwnc a chyfle wedyn i ymarfer ei ddawn yn ei hen ysgol yn Llanwenog. Dyma efallai rhyw fath o ragfynegiad o alluoedd y meibion.

Yn ol D. Jacob Davies, a ddaeth yn weinidog ar gapel Undodaidd Cwmsychpant yn ystod pumdegau'r ganrif ddiwethaf, hannai Elizabeth Williams o'r un Llwydiaid a nifer o weinidogion Undodaidd blaenllaw, yn ogystal a'r pensaer byd-enwog Frank Lloyd Wright. Roedd yn mwynhau darllen ac yn pori'n gyson mewn papurau newydd ac unrhyw lyfr a ddoi i law. Oherwydd hyn, y geiriadur oedd un o dri llyfr oedd yn ganolog i fywyd yr aelwyd. Y ddau arall oedd y Beibl, fel y soniwyd eisoes, a chyfrol Ysgol Farddol Dafydd Morgannwg.

Mae cyfrol Dafydd Morgannwg yn tynnu sylw at ddileit James Williams mewn barddoni ac mae Evans wedi neilltuo pennod yn ei lyfr ar gyfer trafod ei waith. Yr oedd yn gystadleuydd brwd ar yr englyn mewn eisteddfodau lleol ac yn aml iawn yn dod i'r brig. Adlewyrcha'r testunau fywyd gwledig y cyfnod a dyma ddwy enghraifft, y cyntaf ynghylch dyfodiad y tractor a'r llall yn dathlu'r friallen:

Swn tractor hwyr a borau – a ledodd Drwy'r wlad er ys dyddiau;
Un fach swil chwaer y lili – yn gynnar Y gwanwyn wna'n llonni Ac i'r claf gwawr haf yw hi,
Byddai hefyd yn cystadlu ar y delyneg ac unwaith eto yn aml yn llwyddiannus. Dyma ddau bennill o gerdd gyfansoddodd ar y testun oedd wedi ei osod, sef Simne Lwfer. Simnai hen ffasiwn oedd hon lle gellid, o sefyll oddi tani, weld yr awyr uwchlaw, un y byddai yn ddigon cyfarwydd a hi fel masiwn. Gyda llaw, 'simnai' oedd y sillafiad ddefnyddiodd James Williams yn ei delyneg.

Simnai lwfer oedd y ffasiwn Amser gynt drwy'r oll o'n gwlad,
Peidied neb a cheisio dannod Bod hi'n dlawd heb unrhyw fri,
Ar drywydd arall dywed Evans y deuai ceisiadau yn aml ar gyfer cyfansoddi cerddi cyfarch yng nghyngherddau croesawu'r milwyr nol adref o'r fyddin. Mae'n debyg bod dros gant o'r rhain.

Mae'r farddoniaeth yn rhoi cipolwg ar fywyd ardal a ffordd o fyw y cyfnod ond, fel yr awgryma Evans, mae hefyd yn rhoi blas ar fywyd Brynawel a'r diwylliant y codwyd y tri mab ynddo ac yn pwysleisio'r dyhead o'u gweld yn siarad Cymraeg ac yn parchu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Elfen arall oedd y pwyslais roddid ar addysg. Dywed Williams fod ei dad yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd addysg; pwysigrwydd oedd yn haeddu aberth os oedd angen. Clywodd Evans y fam ar sawl achlysur yn cynghori teuluoedd y fro, 'Rhowch lyfr i blentyn i greu'r awydd ynddo i ddarllen a'r awch at addysg.' Crynhoir hyn yn y sampler a weuodd yn ddeunaw oed, gwaith lliwgar gyda phaun balch yn y canol wedi ei amgylchynu gan flodau ac adar eraill, a'r neges 'Gwell Dysg na Golud' wedi ei gwau ar y gwaelod. Ni allai Evans fod wedi dewis gwell teitl i'w lyfr.

Fel eu rhieni, i Lanwenog yr aeth y brodyr pan ddaeth yn amser mynd i'r ysgol. David, neu Dai i'w frodyr a'i gyfeillion, oedd y cyntaf, ac ar ol cyfnod yno daeth y cyfle iddo barhau a'i addysg yn Ysgol Sir Llandysul. Wedi matricwleiddio yn bymtheg oed, gadawodd Landysul a mynd yn 'pupil teacher' yn ei hen ysgol yn Llanwenog. Yno y bu am ddwy flynedd, gan astudio fin nos ar gyfer arholiadau'r gwasanaeth sifil. Bu'n llwyddiannus a chafodd swydd gyda'r gwasanaeth Tollau Tramor a Chartref yn South Shields. Ond syrffedodd ar y gwaith ac ym 1914 listiodd gyda'r fyddin a mynd i frwydro yng ngogledd Ffrainc. Priododd yn yr un flwyddyn ac ar ol i'r rhyfel ddod i ben symudodd y teulu i Aberystwyth. Flwyddyn yn ddiweddarach, fodd bynnag, llwyddodd i gael mynediad i gwrs peirianneg yn Ngholeg Prifathrofaol Deheudir Cymru a Mynwy (Coleg y Brifysgol, Caerdydd wedyn) gan raddio ym 1922.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa gyda'r Sefydliad Awyrennau Brenhinol (Royal Aircraft Establishment) yn Farnborough, gan ymuno a'r adran strwythurau. Fe'i penodwyd yn uwch swyddog a daeth yn awdurdod yn ei faes. Bu'n darlithio'n rhan-amser i fyfyrwyr ol-radd Coleg Imperial Llundain. Derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys cael ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Awyrennol Brenhinol (the Royal Aeronautical Society) a derbyn gradd DSc gan Brifysgol Manceinion. Yn ogystal, cyhoeddodd An Introduction to the Theory of Aircraft Structures a ddaeth yn adnabyddus fel llyfr gosod safonol. Ar drywydd gwahanol amlygodd ei hoffter o chwarae golff (mae'n debyg bod y tri brawd yn olffwyr da) drwy gyhoeddi llyfr yn dwyn y teitl The Science of the Golf Swing. Dywed Goronwy Evans bod David yn llai cymdeithasol ac yn dawelach personoliaeth na'i ddau frawd. Yn ol ei wyr, yr oedd yn berson tra pharod i ddadlau, amharod i ddioddef nonsens a'i dymer yn gallu dod i'r wyneb pan yn gyrru. Bu farw yn Farnborough ym 1970 yn saith deg chwech mlwydd oed.

I ysgol Llanwenog aeth yr ail frawd John (Jack i'w gydnabod) ond yn anffodus dioddefai o'r fogfa a bu'n rhaid iddo dreulio llawer o amser yn ei wely, yn enwedig pan yn blentyn. Serch hynny, er yr anfantais o fethu ag elwa'n addysgol tra'n blentyn, gyda'r dycnwch oedd yn nodweddiadol o'r teulu, mynychodd ddosbarthiadau nos a llwyddo i gymhwyso ei hun yn optegydd cydnabyddedig. Ar ol priodi sefydlodd fusnes optegydd, gemwaith a thrin watshis ym Maesteg. Bu farw yn Abertawe ym 1983 ag yntau yn wyth deg pump mlwydd oed.

Dyddiau Ysgol

Fel ei frodyr, cychwynnodd Evan James Williams ei addysg yn ysgol Llanwenog. Buan y sylweddolwyd ei fod yn blentyn hynod alluog a gydol ei gyfnod yn yr ysgol yr oedd ar frig ei ddosbarth. Bu ei frawd hynaf David yn ei ddysgu am gyfnod, profiad gwerthfawr yn ol Williams, yn arbennig pan yn ymdrin a llenyddiaeth Saesneg. Prifathro ysgol Llanwenog oedd J. W. Jones, gwr llym ei ddisgyblaeth ond yn awyddus i sicrhau llwyddiant ei ddisgyblion. Ym marn Williams, dyletswydd yn hytrach na phleser oedd dysgu iddo ef a'i gyd-ddisgyblion.

Er bod ei dad yn eisteddfotwr pybyr ymddengys na wnaeth Williams ei ddilyn. Byddai, fel ei frawd John, yn troi i ganu pan wrth ryw dasg neu'i gilydd yn y ty ond does dim son iddo wneud hynny ar lwyfan eisteddfod. Ei unig atgof yw iddo unwaith ennill yng nghystadleuaeth adrodd i blant ac, ar yr un noson, ddod yn gyntaf ar chwarae'r organ geg. Flynyddoedd wedyn roedd yn dal i gofio taw'r alaw a ddaeth a buddugoliaeth iddo oedd 'God Save the King'.

Ym 1915, ag yntau yn ddeuddeg oed, efelychodd ei frawd hynaf drwy ennill yr hyn a elwid yn free place yn Ysgol Sir Llandysul gan gael y marciau uchaf drwy'r sir yn yr arholiad. Golygai hyn nad oedd angen talu am ei addysg tra yn Llandysul. Mae'n debyg i'w brifathro yn Llanwenog ei geryddu am adael yr ystafell ugain munud yn gynnar yn yr arholiad rhifyddeg. Fodd bynnag, Williams gafodd y gair olaf gan iddo lwyddo i ennill marciau llawn ar y papur hwnnw. Canlyniad ei orchest, yn ol Lucy Bellamy a oedd yn yr un dosbarth ag ef, oedd i'w gyd-ddisgyblion ei gario o gwmpas ar ysgol. Cafodd hithau yr un anrhydedd gan iddi ddod yn drydydd yn yr arholiad.

Prifathro ysgol Llandysul oedd William Lewis, un o'r ardal a gafodd ei fagu ar fferm Talfedw, Pencarreg. Ef oedd prifathro cyntaf yr ysgol pan ei sefydlwyd ym 1895. Yn dra galluog, aeth i Ysgol Coleg Dewi Sant Llambed ac mae son ei fod yn codi yn y bore i odro cyn mynd i'r ysgol. Ysgol oedd hon yn perthyn i Goleg Dewi Sant ac yn cyflwyno addysg gyffelyb i'r hyn oedd yn cael ei gynnig yn ysgolion gramadeg y cyfnod. O'r ysgol enillodd Lewis ysgoloriaeth i'r coleg, lle cwblhaodd gwrs mathemateg tair blynedd mewn dwy flynedd a hynny gyda gradd dosbarth cyntaf. Yna llwyddodd i sicrhau ysgoloriaeth arall i Goleg y Frenhines, Caergrawnt, gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg ar ddiwedd tair blynedd ym 1890, gorchest oedd yn dwyn y teitl Wrangler. Ar ol gadael Caergrawnt bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion, gan gynnwys Ysgol Llanymddyfri cyn ei benodi'n brifathro Ysgol Sir Llandysul. Yn naturiol, roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn addysg fathemategol a gwyddonol a thra'n brifathro parhaodd i ddysgu mathemateg, gwersi a oedd wrth fodd Williams. Os taw dyletswydd oedd dysgu yn Llanwenog, trodd yn fwynhad pur dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth Lewis, gan sicrhau bod ei ddiddordeb cynhenid mewn ffiseg a mathemateg yn ffynnu.

Person arall a fu'n gryn ddylanwad ar Williams oedd yr athro gwyddoniaeth John Jones. Daeth Jones i Landysul o ysgol gynradd leol er mwyn llenwi bwlch dros gyfnod y rhyfel. Digon gwantan oedd ei gymwysterau academaidd. Serch hynny, i Williams roedd yn athro penigamp a'i wersi, drwy roi 'bywyd a lliw' i'r hyn yr oedd yn ei gyflwyno, yn hyfrydwch pur. Tystia taw'r athro hwn fu'n gyfrifol am gyflwyno iddo'r wefr o ddehongli a datrys canlyniadau arbrofion, ymarfer a fu'n agos iawn at ei galon gydol ei yrfa academaidd.

Yng nghyfnod Williams, arferiad disgyblion nad oedd yn byw yn agos i'r ysgol oedd lletya yn Llandysul yn ystod yr wythnos a mynd adref ar y penwythnosau. Dyna fu ei hanes yntau. Dau arall a oedd yn lletya yn 6 Marble Terrace oedd John Tysul Jones ac Evan Tom (Ianto) Davies a daeth y tri yn ffrindiau da. Flynyddoedd wedyn canmolodd y drefn breswyl, gan ddatgan ei bod yn rhagori ar fyw gartref a'i bod yn drueni nad oedd yn bodoli mwyach. Yn ei farn ef roedd y bywyd preswyl yn meithrin cymuned glos ymysg y disgyblion, yn gyfle i osgoi yr hyn a fyddai'n tynnu sylw'r disgybl yn ei gartref ei hun ac yn datblygu'r gallu i berson fod yn hunanddibynnol.

Ar ol dyddiau ysgol aeth Tysul Jones i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a thra yno daeth yn gyfeillgar a Waldo Williams ac Idwal Jones. Graddiodd mewn Cymraeg ac yna mynd yn athro, gan ddysgu mewn nifer o ysgolion cyn ei benodi'n bennaeth adran yn ei hen ysgol yn Llandysul. O Landysul aeth yn brifathro Ysgol Uwchradd Fodern Henllan ac yna Ysgol Uwchradd Castell Newydd Emlyn, gan dderbyn gradd MA Prifysgol Cymru tra yn y swydd honno.

I Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yr aeth Davies a graddio mewn mathemateg gymhwysol. Oddi yno aeth i Goleg Prifysgol Abertawe gan dderbyn ail radd, y tro hwn mewn mathemateg bur, ac yna radd MSc. Astudiodd ar gyfer ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Rhufain cyn mynd am gyfnod i Baris ac yna yn ol i Brydain i ddarlithio yng Ngholeg y Brenin, Prifysgol Llundain. Yn debyg i Williams, fel y ceir gweld isod, ymddengys bod Davies yn gymeriad bywiog, a thra yn Rhufain cafodd ei restio dair gwaith. Ar un achlysur, roedd ef a chriw o fyfyrwyr yn y Colosseum yn llawn hwyl a sbri. Penderfynwyd y dylai pawb ganu eu hanthem genedlaethol. Davies oedd yr olaf, ond tra'n morio 'Hen Wlad fy Nhadau' glaniodd yr heddlu. Yn ffodus, ni chafodd ei hebrwng i'r carchar. Yn amlwg yn fathemategydd disglair, fe'i dyrchafwyd maes o law yn ddarllenydd, cyn symud i Gadair Mathemateg Coleg Prifysgol Southampton. Ar y pryd ef oedd yr unig athro mathemateg ym Mhrydain nad oedd wedi astudio naill ai yn Rhydychen neu Gaergrawnt.

Direidi a Dysg

Flynyddoedd wedyn rhannodd Davies rai o'i atgofion o Williams yn ystod ei ddyddiau ysgol. Cofia'r bachgen byr ond llydan o gorff a gwen ddireidus ar ei wyneb. Llysenw Williams oedd Desin ac mae Goronwy Evans yn cynnig tri eglurhad am y modd y cafodd y llysenw hwnnw. Yr eglurhad cyntaf oedd taw dyma sut yr oedd Williams yn ynganu'r gair deryn pan yn blentyn a'r ail oedd bod y llysenw'n adlewyrchu'r ffaith ei fod yn fach o gorff. Y trydydd, a'r mwyaf tebygol yn ol Evans, yw ei fod yn deillio o'r gair decimal, a hynny yn adlewyrchu ei allu wrth drin rhifau. Pa eglurhad bynnag sydd agosaf at y gwir, tra'n ddigon hapus i'w gyfeillion ei alw'n Desin, atgof Davies yw nad oedd Williams yn croesawu cael ei alw'n 'Decimal'. Yn wir gwneud hynny oedd y ffordd sicraf o gael cosfa ganddo ac o gofio'i gryfder corfforol mae'n siwr y byddai'r troseddwr yn cofio'r wers.

Yn ol Davies, byddai Williams wastad ynghanol unrhyw dwrw, ei chwerthiniad yn uwch na neb a'r posibilrwydd o chwarae triciau byth ymhell o'i feddwl. Un tro cafodd Davies gerydd gan yr athro gwyddoniaeth oherwydd bod ei nodiadau gwaith cartref ar waith ymarferol yn cynnwys diagramau diystyr. Roedd hyn yn gymaint o syndod i Davies ag i'r athro ond mewn byr amser daeth yn amlwg bod Williams wedi cael gafael ar y llyfr gwaith cartref wedi i Davies orffen a mynd ati i newid y diagramau. Fel y tystiai eraill, parhaodd y gyneddf hon gydol ei oes.

Criced oedd hoff gem Williams ac yn arbennig batio. Wedi cinio ganol dydd yn y llety, yr arferiad ymysg y bechgyn yn yr haf oedd taw y cyntaf i gyrraedd y cae fyddai hefyd y cyntaf i fatio. Yn benderfynol taw ef fyddai'r bachgen hwnnw, cai Davies y dasg o aros wrth ddrws y ty ac os oedd unrhyw awgrym bod rhywun arall yn y stryd ar fin mynd allan, yna roedd i roi rhybudd i Williams a hwnnw wedyn yn gadael ei fwyd a rhuthro i'r cae. Wedi gadael ysgol trodd oddi wrth griced at denis a pharhaodd ei ddiddordeb yn y gem honno weddill ei fywyd.

Ym 1918 ag yntau wedi bod dair blynedd yn ysgol Llandysul, bu Williams yn llwyddiannus yn arholiadau tystysgrif ysgol Bwrdd Canol Cymru, gyda rhagoriaeth mewn nifer o bynciau gan gynnwys rhifyddeg, geometreg, ffiseg a mecaneg. Cofia Davies iddo fynd ati ar ol pob arholiad i farcio'r papur ar sail yr atebion a roddodd er mwyn cyfrifo'r marc yr oedd yn debyg o'i gael. Pan gyhoeddwyd y marciau gwelwyd bod nifer ohonynt o fewn rhyw 2 y cant i'w gyfrifiad ef. Ymysg y rhain yr oedd un hynod o isel, sef 41 y cant ar gyfer Lladin, marc a oedd yn agos iawn at y ffin rhwng llwyddiant a methiant. Roedd pasio Lladin yn bwysig, oherwydd drwy wneud hynny fe eithrid yr ymgeisydd o anghenion matricwleiddio. Felly, o gofio cywirdeb ei ragfynegiadau, pam anelu mor agos at y trothwy? Yn syml, 'swot' yn unig fyddai'n llwyddo i gael marc uchel mewn Lladin, ac yn sicr doedd Williams ddim yn chwennych y teitl hwnnw. Anodd peidio ag edmygu'r gamp o gyflwyno digon o atebion cywir i sicrhau mai crafu dros y trothwy a wnâi.

(Continues…)



Excerpted from "Evan James Williams"
by .
Copyright © 2017 Rowland Wynne.
Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Rhestr Luniau Rhagair Pennod 1 Mae Gen’ I Freuddwyd Pennod 2 Siglo’r Seiliau Pennod 3 Doethuriaethau Pennod 4 Pererindota Pennod 5 Cyrraedd y Brig Pennod 6 Helgwn y Weilgi Pennod 7 Gwawr a Gweryd Pennod 8 Epilog Llyfryddiaeth
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews