Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen': Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990

Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen': Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990

by Lisa Sheppard
Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen': Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990

Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen': Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990

by Lisa Sheppard

eBook

$9.49  $10.39 Save 9% Current price is $9.49, Original price is $10.39. You Save 9%.

Available on Compatible NOOK devices, the free NOOK App and in My Digital Library.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae’n astudiaeth gymharol sy’n dod â gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd – gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae’n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am ‘aralledd’ – term sy’n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i’r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd â themâu megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma’r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol – cymdeithas lle y mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir â seilio hunaniaeth Gymreig ar allu’r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae’r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.


Product Details

ISBN-13: 9781786831996
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 06/15/2018
Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 256
File size: 2 MB
Language: Welsh

About the Author

Dyma gyfrol academaidd, sydd â lefel darllen aeddfed, ond hefyd yn hygyrch i oedolion (gan gynnwys oedolion ifainc – oedran Lefel A neu gradd) sy’n dod ati heb fod yn arbenigwyr ar feirniadaeth lenyddol. Ceir rhestr termau ar ddechrau’r gyfrol er mwyn esbonio terminoleg gymhleth/ddieithr, a fydd o fudd i ddarllenwyr lleyg a’r darllenwyr o feysydd eraill.

Read an Excerpt

CHAPTER 1

Y Gymru 'Ddu': Diffinio Aralledd yn y Gymru Amlddiwylliannol

Mae ffigwr yr 'arall' a chyflwr aralledd wedi ymddangos mewn trafodaethau athronyddol ers sawl canrif, ac yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif yn namcaniaethau beirniadaeth lenyddol a diwylliannol. Un maes beirniadol y mae trafod natur aralledd yn arbennig o bwysig iddo yw theori ôl-drefedigaethol, sydd, ar ei ffurf fwyaf sylfaenol, yn archwilio effaith y broses o drefedigaethu ar ddiwylliannau gwledydd a drefedigaethwyd a'r rhai a fu'n eu trefedigaethu. Mae nifer o feirniaid llenyddol wedi dangos sut y gall theorïau ôl-drefedigaethol am yr 'arall', trwy eu hamodi weithiau, fod yn berthnasol i sefyllfa Cymru. Bydd y bennod hon yn gwneud hynny, gan awgrymu sut mae gwahanol gyddestunau yn ei gwneud yn bosib ystyried bod unigolion o unrhyw gefndir diwylliannol yng Nghymru, gan gynnwys cymunedau Cymraeg a Saesneg brodorol, yn gallu ymddangos fel yr 'arall', a hynny oherwydd natur gymhleth gwleidyddiaeth ieithyddol a diwylliannol y Gymru gyfoes.

Medd y beirniad llenyddol Kirsti Bohata '"[o]therness" or "the other" are, at their most basic, simply signifiers of difference'. Yn yr ystyr mwyaf sylfaenol, felly, mae'r 'arall' neu 'aralledd' yn gwrthwynebu homogenedd (homogeneity) neu unrhywiaeth (sameness). Ar lefel athronyddol, mae'r 'arall' yn rhan o'r broses o ddiffinio hunaniaeth yr unigolyn – yr 'hunan' (self). Fel yr ychwanega Bohata, mae'r 'arall' yn 'recognisable but different entity, against which the "I" or "self" or "norm" can be defined'. Trwy gyfeirio at y 'norm', awgryma diffiniad Bohata y gellir ystyried aralledd o safbwynt diwylliannau neu arferion hefyd. Mae disgrifio diwylliannau neu arferion fel y 'norm' yn arwyddocáu eu goruchafiaeth, eu sofraniaeth neu'u hirhoedledd, yn ogystal â'u homogenedd honedig, ac felly mae diwylliannau neu arferion 'eraill', yn ogystal â'r unigolion sy'n eu harddel, yn ymddangos yn ymylol neu'n israddol. Ond oherwydd eu bod yn gwrthwynebu'r 'norm' mae'r 'arall' hefyd yn cynrychioli bygythiad posib i'w awdurdod. Elfen bwysig o ddiffiniad Bohata yw'r ffaith y diffinnir yr 'hunan' neu'r 'norm' yn erbyn aralledd; hynny yw, caiff yr 'hunan'/'norm' a'r 'arall' eu diffinio mewn perthynas â'i gilydd. Er yr ymddengys, felly, fod aralledd ac unrhywiaeth, neu'r 'arall' a'r 'hunan' yn gyferbyniadau pegynol, mewn gwirionedd caiff y naill ei ddiffinio gan gyfeirio at y llall. Maent yn bodoli mewn perthynas ddilechdidol (dialectical relationship). Golyga hyn eu bod yn ddibynnol ar ei gilydd er mwyn eu diffinio eu hunain. Yr 'hunan' yw'r 'hunan' oherwydd nad yr 'arall' ydyw, ac yn yr unmodd, yr 'arall' yw'r 'arall' gan nad yw'r un fath â'r 'hunan'.

Mae'n bosib esbonio perthynas y genedl ac amlddiwylliannedd trwy gyfeirio at homogenedd ac aralledd. Gellir dadlau mai unrhywiaeth sydd wrth wraidd diffiniadau ethnig o'r genedl, gydag aelodau'r genedl yn aml yn rhannu'r un dreftadaeth, yr un iaith neu'r un arferion diwylliannol. Dadleua'r damcaniaethwr ym maes cenedlaetholdeb, Anthony D. Smith, fod perthyn i genedl yn ddibynnol ar rannu'r un nodweddion ag aelodau eraill y genedl honno neu ar gyflawni'r un arferion â hwy:

[t]he members of a particular group are alike in just those respects in which they differ from non-members outside the group. Members dress and eat in similar ways and speak the same language; in all these respects they differ from non-members, who dress, eat and speak in different ways.

Mae'r hyn a ddywed Smith am homogenedd y genedl a'i harwahanrwydd oddi wrth genhedloedd eraill yn dangos yn union sut y caiff ei diffinio mewn perthynas ag aralledd neu wahaniaeth. Sonia Smith hefyd am sofraniaeth, undod a chyfanrwydd y genedl oddi mewn i'w thiriogaeth ei hun, gan gyfeirio at 'patterns of myth, symbol, memory and value that bind successive generations of members together while demarcating them from "outsiders" and around which congeal the lines of cultural differentiation that serve as "cultural markers" of boundary regulation'. Mae ffiniau'r genedl yn dynodi endid cyfan, yn ogystal â gwahanu'r genedl oddi wrth genedl neu genhedloedd eraill. Gan ddefnyddio'r model hwn o unrhywiaeth ac aralledd, nid yw'n syndod i David Bennett ddatgan '[m]ulticulturalism in its various guises clearly signals a crisis in the definition of the "nation"'. Mae presenoldeb diwylliannau eraill yn herio'r unrhywiaeth sydd wrth wraidd y genedl fel y'i diffinnir gan Smith. Yn y berthynas ddilechdidol hon, mae hunaniaeth un yn ddibynnol ar hunaniaeth y llall.

Yr athronydd Prwsiaidd Georg Wilhelm Friedrich Hegel (1770–1831) oedd y cyntaf i honni bod yr 'arall' yn elfen gyfansoddol o'r 'hunan' yn ei astudiaeth o ddatblygiad yr hunanymwybod, The Phenomenology of Spirit (Phänomenologie des Geistes, 1807). Mae adran enwog o'r gwaith hwn, sy'n esbonio'r berthynas ddilechdidol rhwng arglwyddiaeth a chaethiwed (lordship and bondage, a adwaenir yn aml fel the master-slave dialectic), yn mynegi sut y mae'r 'hunan' a'r 'arall' yn ddibynnol ar ei gilydd. Yn ôl Hegel, mynegir hunanymwybyddiaeth ar ffurf dyhead (desire), a'r hyn a ddyhea'r 'hunan' amdano yw disodli'r 'arall' er mwyn cadarnhau sicrwydd a gwirionedd ei hunaniaeth ei hun:

self-consciousness is ... certain of itself only by superseding this other that presents itself to self-consciousness as an independent life; self-consciousness is Desire. Certain of the nothingness of this other, it explicitly affirms that this nothingness is for it the truth of the other; it destroys the independent object and thereby gives itself the certainty of itself as a true certainty.

Ond wrth geisio ac, yn wir, ermwyn disodli'r 'arall',mae'n rhaid i'r 'hunan' gydnabod bodolaeth annibynnol yr 'arall'. Golyga hyn na all yr 'hunan' byth gyflawni'r weithred o ddisodli'r 'arall' yn gyfan gwbl; gall wneud dimond ailadrodd y broses dro ar ôl tro:

this satisfaction, however ... makes [the self] aware that the object has its own independence. Desire and the self-certainty obtained in its gratification, are conditioned by the object, for self-certainty comes from superseding this other: in order that this supersession can take place, there must be this other. Thus self-consciousness, by its negative relation to the object, is unable to supersede it; it is really because of that relationship that it produces the object again.

Gwelwn, felly, fod yr 'hunan' yn ddibynnol ar yr 'arall'. Mae'r 'arall' hefyd yn rhywbeth a gynhyrchir gan yr 'hunan', dro ar ôl tro, er mwyn i'r 'hunan' geisio cadarnhau ei sicrwydd ei hun, o hyd ac o hyd.

Er mwyn esbonio hyn ymhellach, try Hegel at y berthynas rhwng arglwyddiaeth a chaethiwed. Trwy gydnabod bodolaeth annibynnol yr 'arall', mae'n rhaid i'r 'hunan' gydnabod hunanymwybyddiaeth yr 'arall', ac felly ei aralledd ei hun o safbwynt yr 'arall'. Mae'r cysyniad hwn yn un pwysig o safbwynt yr astudiaeth hon sy'n ystyried sut y mae presenoldeb safbwyntiau goddrychol gwahanol yn golygu y gall unigolyn neu grfip gael eu troi'n 'arall' o un safbwynt, tra gallant ymddangos fel unigolyn neu grfip dominyddol o safbwynt amgen. Dadleua Hegel fod sefyllfa o'r math hwn yn drysu'r berthynas rhwng yr 'hunan' a'r 'arall' ymhellach, gan fod y ddau yn ymddangos yn fwy cyfartal. Dywed Hegel: 'one individual is confronted by another individual ... Each is certain of its own self, but not of the other, and therefore its own self-certainty still has no truth.' Try hyn yn frwydr angheuol rhwng y ddau – 'each seeks the death of the other', chwedl Hegel ei hun – er mwyn ceisio pennu pa un fydd yn disodli'r llall. Mae'r frwydr yn fodd i brofi pa unigolyn sydd wir yn annibynnol – ni fydd yr unigolyn hwnnw yn dibynnu ar unrhyw beth, nid yr 'arall' na'i fywyd ei hun hyd yn oed, er mwyn cadarnhau sicrwydd ei hunaniaeth, tra bydd y llall yn ildio, gan gydnabod bod ei hunaniaeth yn ddibynnol ar ei fywyd ac ar yr 'arall':

it is only through staking one's life that freedom is won; only thus is it proved that for self-consciousness, its essential being is not [just] being, not the immediate form in which it appears, not its submergence in the expanse of life, but rather that there is nothing present in it which could not be regarded as a vanishing moment, that it is only pure being-for-self ... Similarly ... each must seek the other's death, for it values the other no more than itself; its essential being is present to it in the form of an 'other', it is outside of itself andmust rid itself of its self-externality.

Pen draw'r frwydr yw bod un o'r ddau unigolyn yn ildio. Ef yw'r Caethwas, '[a] dependent consciousness whose essential nature is simply to live or be for another' – hynny yw, mae'n bodoli er mwyn gweini ar ei Feistr. Y Meistr yw'r unigolyn a wrthododd ildio: 'the independent consciousness whose essential nature is to be for itself'. Mae ef wedi disodli'r 'arall', a chadarnhau sicrwydd ei hunaniaeth ei hun, ynghyd â dangos bod yr 'arall', y Caethwas, yn ddibynnol arno ef amei hunaniaeth.

Ond nid yw pethau mor syml â hynny. Er mwyn iddo fod yn Feistr, mae'n rhaid iddo gael rhywbeth i'w feistroli, sef y Caethwas. Mae'r Meistr felly yn ddibynnol ar y Caethwas, ac ar allu'r Caethwas i'w gydnabod ef fel ei Feistr, amei hunaniaeth ef hefyd:

[The Master cannot] be lord over the being of the thing and achieve absolute negation of it. Here, therefore, is present this moment of recognition, viz. that the other consciousness sets aside its own being-for-self, and in so doing itself does what the first does to it ... the object in which the lord has achieved his lordship has in reality turned out to be something quite different from an independent consciousness. What now really confronts him is not an independent consciousness, but a dependent one ... The truth of the independent consciousness is accordingly the servile consciousness of the bondsman.

Ymddengys y berthynas ddilechdidol rhwng y ddau eto, felly. Mae'r 'arall' yn parhau i gyfrannu at ddiffiniad yr 'hunan' o'i hunaniaeth ei hun. Yn ogystal â hynny mae'r 'arall' yn cynrychioli bygythiad i awdurdod yr 'hunan' a sicrwydd ei hunaniaeth.

Mudwyr, mygydau a moesoldeb: yr 'arall', grwpiau ymylol a sefyllfa Cymru

Yn y berthynas ddilechdidol mae Hegel yn ei holrhain, gall y Meistr a'r Caethwas gynrychioli'r frwydr rhwng dau berson, neu ddau grfip hyd yn oed. Mae sawl un wedi defnyddio'r berthynas ddilechdidol hon er mwyn dangos sut y mae grwpiau ymylol wedi cael eu gosod yn rôl yr 'arall' yn ôl safonau gwahanol gymdeithasau. Ym maes astudiaethau rhywedd a ffeminyddiaeth, er enghraifft, mae Simone de Beauvoir, yn ei chyfrol arloesol The Second Sex (Le Deuxième Sexe, 1949), yn dangos sut y sefydlwyd menywod fel yr 'arall' yn ôl safonau a thelerau cymdeithas batriarchaidd:

History has shown us that men have always kept in their hands all concrete powers; since the earliest days of the patriarchate they have thought best to keep women in a state of dependence; their codes of law have been set up against her; and thus she has been definitely established as the Other. This arrangement suited the economic interests of the males; but it conformed also to their ontological andmoral pretensions.

Mae gosod y fenyw yn safle'r 'arall' yn golygu bod y dyn yn cadarnhau cyfanrwydd a gwirionedd ei hunaniaeth ddwywaith – cadarnha mai'r dyn yw'r norm, ac oherwydd hynny caiff gadarnhad mai yn ôl y strwythur cymdeithasol sydd yn ei osod ar y brig y dylwn ddeall a dehongli'r byd.

Yn ogystal â hynny, dadleua de Beauvoir na chaiff y fenyw ei diffinio fel endid annibynnol; yn hytrach caiff ei diffinio gan y dyn a thrwy gyfeirio at y ffyrdd ymae hi'n wahanol iddo:

humanity is male and man defines woman not in herself but as relative to him; she is not regarded as an autonomous being ... She is defined and differentiated with reference to man and not he with reference to her; she is the incidental, the inessential as opposed to the essential. He is the Subject, he is the Absolute – she is the Other.

Pwysleisir yma un o brif nodweddion yr 'arall', sef ei fod yn cyferbynnu'n llwyr â'r 'hunan'. Caiff cyferbynrwydd yr 'arall' (y fenyw yn achos theori de Beauvoir) ei fynegimewn termau negyddol – 'inessential', er enghraifft – ac mewn modd sy'n peri ei fod yn ymddangos yn sefydlog neu'n ddigyfnewid. Yn eironig, mae'r ffaith bod y fenyw yn 'inessential' yn peri bod ei hunaniaeth yn un hanfodaidd (essentialised); pa faint bynnag y newidia hunaniaeth y dyn, ni fydd hunaniaeth y fenyw yn newid. Bydd hi'n parhau i gyferbynnu'n llwyr ag ef.Ar y llaw arall, yr 'hunan' (y dyn yn ôl de Beauvoir) sy'n weithredol ac yn ddeinamig, ac fel goddrych, mae'n ymateb i'r byd o'i gwmpas ac yn newid o'i herwydd.

Yn amlwg, mae de Beauvoir yn trafod aralledd o safbwynt rhywedd mewn cymdeithas batriarchaidd, ond mae'r disgw' rs sy'n llunio aralledd y fenyw yn yr achos hwn yn ymdebygu i'r disgw' rs sy'n ymddangos mewn delweddau o amlddiwylliannedd yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig a'i chenhedloedd cyfansoddol. Nid delweddau sy'n disgrifio aralledd mewnfudwyr neu leiafrifoedd ethnig o'u cymharu â brodorion mo'r rhain, ond delweddau sy'n rhoddi i Brydeindod natur amlddiwylliannol gynhenid sy'n hyblyg ac yn agored i eraill, tra eu bod yn portreadu diwylliannau gwledydd unigol y Deyrnas Unedig, a'r diwylliannau lleiafrifol eraill sy'n byw yno, fel rhai sy'n gwrthwynebu'r ddelfryd hon. Mae'n werth nodi bod y delweddau sy'n priodoli hunaniaeth amlddiwylliannol gynhenid i Brydain yn tynnu'n groes i'r diffiniadau o Brydeindod a gafwyd yn y 1950au. Gellir dadlau y diffiniwyd Prydeindod bryd hynny yn erbyn aralledd mewnfudwyr nad oeddynt yn wyn eu croen. Amlygwyd y gwahaniaethau hil honedig hyn yn sgil Deddf Dinasyddiaeth Brydeinig 1948 a ganiataodd i bobl y Gymanwlad fyw ym Mhrydain. Ymhlith y rheini a ymfudodd i Brydain oedd pobl o India'r Gorllewin – y 'Genhedlaeth Windrush', fel y'u gelwir erbyn heddiw – ac mae eu profiad o aralledd yn cael ei archwilio gan awduron megis Sam Selvon, a ddisgrifiodd profiadau dynion o'r Caribî a ddaeth i Lundain i fyw yn ei nofel The Lonely Londoners (1956). Mae un o'r dynion hyn, Moses, yn esbonio wrth ffrind sydd newydd gyrraedd y ddinas natur y rhagfarn hiliol y bydd yn debygol o'i phrofi yno, gan ddweud, 'they just don't like black people ... In America you see a sign telling you to keep off, but over here you don't see any, but when you go in the hotel or restaurant they will politely tell you to haul – or else give you the cold treatment.'

Mae cymeriadau nofel Selvon wedi mewnoli'r math o ddisgyrsiau am fewnfudwyr (er enghraifft, 'they [the immigrants] invading the country by the hundreds' neu 'the English people don't like the boys coming to England to work and live') sy'n parhau hyd heddiw, ac a ailadroddwyd eto yn nadleuon o blaid 'Brexit'. Er i'r disgyrsiau sy'n gosod 'Prydeinwyr' yn erbyn 'tramorwyr' barhau, mae delweddau o Brydain fel gwlad a ddiffiniwyd gan ei hamrywiaeth ddiwylliannol wedi ennill eu plwyf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae delweddau o'r math hwn wedi ymddangos ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft yn araith cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ar ei weledigaeth o 'One Nation' a draddodwyd gerbron cynhadledd flynyddol y blaid honno yn 2012, ac yn y seremonïau a gynhaliwyd i agor a chau Gemau Olympaidd Llundain yn yr un flwyddyn. Er y gallant ymddangos yn ddelweddau diamheuol cadarnhaol o wlad gynhwysol, gellir dadlau bod neges arall ymhlyg ynddynt. Dadansodda'r beirniad diwylliannol a llenyddol Daniel G. Williams y delweddau a ddefnyddiwyd yn y ddau achos hyn, gan ddadlau eu bod yn portreadu Prydeindod fel cysyniad sydd nid yn unig yn caniatáu lluosogrwydd, ond sy'n cael ei ddiffinio ganddo, tra eu bod yn darlunio diwylliannau gwledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig a'r lleiafrifoedd eraill sy'n byw yno fel rhai caeedig a sefydlog:

The success of Danny Boyle's celebrated opening ceremony at [the 2012] Olympics was partly due to his evocation of [a] Victorian idea of Britain in which a diversity of peoples become amalgamated. The narrative was of course reinforced by the dramatic victories of the multi-ethnic team GB, with Scottish, Welsh, Somali and other 'ethnic' and 'regional' identities coexisting under the British umbrella.

This ... vision of Britishness has been reinforced by Ed Miliband in interviews and speeches throughout [2012], climaxing in his conference speech ... [Miliband's vision] relies on Britain being the vehicle for multicultural progress, while its constituent ethnicities are static, background, identities. The problem lies in the fact that while Britain is narrativised, evolving and dynamic, its contributory peoples are essentialised as static races.

Yma gwêl Williams y modd y mae delweddau o Brydeindod amlethnig, blaengar yn cyferbynnu'n llwyr â'r delweddau hanfodaidd o'r hunaniaethau rhanbarthol neu ethnig; mae'r metanaratif hwn o Brydeindod fel petai'n eithrio dehongliadau eraill o amlddiwylliannedd ym Mhrydain. Mae'r modd y mae nifer o'r nofelau dan sylw yn y gyfrol hon, ac yn arbennig y rheini a drafodir yn yr ail bennod, yn arbrofi â ffurf yn herio nifer o fetanaratifau – am Gymreictod, ond hefyd am hil, patriarchaeth, crefydd a rhywioldeb – sy'n eithrio hunaniaethau cymhleth a chymysg eu cymeriadau.

Cyfeiria Daniel G.Williams at sut y portreadwyd Cymru yn seremonïau agor a chau'r Gemau Olympaidd er mwyn enghreifftio sut y portreedir hunaniaethau fel Cymreictod fel yr 'arall' o'u cymharu â Phrydeindod. Disgrifia seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn 2012 fel a ganlyn:

theWelsh were represented by a choir of school children singing a famous Welsh hymn [and] a group of women in 'traditional' Welsh costume. There was no room for modern Welsh culture, in either language ... No Welsh rock bands, no indication of a modern, thriving, Welsh culture in the Welsh or English languages. No indication that Wales is itself a multicultural nation, that 'the Welsh' include people of Jewish, Afro-Carribean [sic], Somali, Indian etc. descent, and that 'Welshness' signifies a whole range of cultural practices.

(Continues…)


Excerpted from "Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen'"
by .
Copyright © 2018 Lisa Sheppard.
Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Diolchiadau Rhestr Termau Cyflwyniad 1 Y Gymru ‘Ddu’: Diffinio Aralledd yn y Gymru Amlddiwylliannol 2 ‘Yr un alaw, gwahanol eiriau’: Herio awdurdod yn y nofel aml-leisiol 3 ‘Welsh... Was ist das?’: Herio ystrydebau ac chreu gofodau synergaidd 4 ‘Call me Caliban’: Iaith ac aralledd 5 ‘Gwlad oedd wedi peidio â bod’: Croesi a chwalu ffiniau Casgliadau a dechreuadau: Y Ddalen ‘Wen’ Llyfryddiaeth Mynegai
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews