Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru

Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru

by Huw Thomas
Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru

Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru

by Huw Thomas

eBook

$14.49  $18.99 Save 24% Current price is $14.49, Original price is $18.99. You Save 24%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Dadansodda’r gyfrol arloesol hon, am y tro cyntaf erioed, ddylanwadau niferus ar dwf yr Ysgolion Cymraeg, gan godi cwestiynau i finiogi meddwl wrth i Gymru wynebu tonnau newydd o sialensau, ac ysbrydoli eraill i ymaflyd yn yr ymgyrchu dros Ysgolion Cymraeg a’n treftadaeth genedlaethol mewn byd plwralistig a chyfnewidiol.

Product Details

ISBN-13: 9781783164134
Publisher: University of Wales Press
Publication date: 07/01/2010
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 253
File size: 5 MB
Language: Welsh

Read an Excerpt

Brwydr i Baradwys?

Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru


By Huw S. Thomas

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2010 Huw S. Thomas
All rights reserved.
ISBN: 978-0-7083-2298-7



CHAPTER 1

Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru: Trosolwg a Chyflwyniad


RHAGYMADRODD


Mae gan bob awdur ei gyfansoddiad genetig a'i fagwraeth, ei natur a'i bersonoliaeth, ei deimladau a'i ddaliadau, ei gredo a'i obeithion, ei ddiwylliant a'i hunaniaeth, ei famiaith a'i lais, ei brofiadau a'i addysg, ei wrthrychedd a'i oddrychedd, ei ddisgyblaeth a'i ragfarnau. Anorfod felly nad oes tueddiadau yn amlygu'u hunain mewn astudiaeth sy'n ymwneud yn bennaf â phenderfyniadau pobl, boed gan deuluoedd unigol neu lunwyr polisi, ar lefelau micro, meso neu facro. Priodol felly yw nodi rhai o fy mhenderfyniadau pan oeddwn yn fir ifanc, gan eu bod yn adlewyrchu ac yn cydnabod tueddiadau a gogwydd a fedrai effeithio ar wrthrychedd yr astudiaeth gyfredol.

Dechreuodd f'ymrwymiad i'r iaith Gymraeg yr haf cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i astudio'r Clasuron, pan gydnabum mai iaith siprys ar y naw a siaradwn, a bod beirniadaeth fy rhieni ar y fath iaith garbwl yn feirniadaeth deg. Penderfynais loywi fy iaith. Sylweddolais hefyd na fedrwn rannu ystafell ym Mhantycelyn â myfyriwr arall oni bai mai yn Gymraeg y byddai'r ddau ohonom yn cyfathrebu. Gwneuthum gais priodol i awdurdodau'r coleg, a chael f'ystafell fy hun. Ni sylweddolais fy mod, tan hynny, yn enghraifft berffaith o'r Cymry rhugl neu led rugl eu Cymraeg llafar a orfodwyd, chwedl Robert Owen Jones (1997, 350), i droi at eu hail iaith er mwyn ysgrifennu:

Mae'r ffaith fod cenedlaethau o Gymry rhugl eu Cymraeg llafar wedi gorfod troi i'r Saesneg wrth newid cyfrwng yn gondemniad llym ar yr awdurdodau a fu'n hyrwyddo'r fath sefyllfa anghyfartal, ac yn fater cywilydd i siaradwyr yr iaith a dderbyniodd yn ddibrotest y fath sarnu ar eu hawliau cynradd.


Wedi derbyn addysg prifysgol yn gyfan gwbl drwy'r Saesneg am bum mlynedd, ond â seminarau yn Gymraeg y flwyddyn ganlynol ar gyfer Diploma Addysg, penderfynais geisio am swydd athro Lladin yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, nid am ei bod yn ysgol Gymraeg, ond oherwydd ei lleoliad daearyddol, yn agos i Gaerdydd.

Nid hunangofiant mo'r gyfrol gyfredol, ond cynhwysir yr hanesion personol am iddynt ddatgan tuedd a gogwydd, ac ymgorffori un o'r elfennau allweddol yn hanes twf addysg Gymraeg, sef ymrwymiad a dylanwad unigolion. Gan na chredwn fod gennyf feistrolaeth ar yr iaith, ni chynigiais am y swydd, ond newidiais fy meddwl bedair awr ar hugain cyn y dyddiad cau, am dri rheswm: sylweddoli arwyddocâd bod yr Athro Jac L. Williams a phennaeth Rhydfelen, Gwilym Humphreys, wedi trafod fy mhotensial fel darpar athro ifanc; gwerthfawrogi ymrwymiad ysgrifennydd y gyfadran addysg, Llew Hughes, a arhosodd yn ei swyddfa yn hwyr er mwyn f'annog i bostio cais sydyn; a chymryd cyngor doeth yr Athro W. H. Davies, Athro'r Clasuron, y bore canlynol, 'Good gracious, a linguist who can't perfect his mother tongue! What's the matter with you?'

Yn Rhydfelen rhwng 1966 a 1981, yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedyn tan 1995, ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf tan ymddeol yn 2003, magais brofiad dwfn o'r gyfundrefn addysg ac o'r ysgol Gymraeg. Er f'ymdrechion i ysgrifennu mor wrthrychol â phosib, neges yr apologia personol hwn yw bod tueddiadau a dylanwadau anorfod yn y gwaith.

Wrth drafod hawliau ieithyddol a lleiafrifol, dywed May (2001, xiii), 'All positions that are taken ... – academic or otherwise – involve a moral dimension, reflecting the particular values and ideologies of their exponents.' Cytunaf, yn arbennig gan na fedrai deugain mlynedd proffesiynol yn gweithredu dros y Gymraeg drwy addysg beidio â gadael ei ôl ar f'ysgrifennu. Mae dimensiwn moesol yn fwy na syniadau: mae'n golygu gweithredu. Gwelir y drol gysyniadol/academaidd wedi'i throi wyneb i waered fel petai: y safbwynt damcaniaethol yn dilyn y gweithredu. Ond rhaid hongian ymchwil empirig ar fframwaith damcaniaethol, fel y dywed May ar yr un dudalen:

[A]ll research is value-laden and, as such, a researcher must begin from a theoretical position of some description, whether this is articulated or not in the ensuing study. Accordingly it is better to state one's position at the start than to cloak it in the guise of apparent neutrality.


Un o ddisgwyliadau cyfrol fel hon yw profi nifer o theses cyd-berthynol, a'r rheini yn amlygu prif ddamcaniaeth neu ddamcaniaethau. Nid yw hi'n dderbyniol nac yn bosibl i ymchwilio i bob agwedd ar y dylanwadau, ond ymdrinnir ag ystod o feysydd perthnasol er mwyn dangos pa mor gymhleth ac amlhaenog yw gwead datblygiad yr ysgolion Cymraeg. Y prif feysydd hyn yw cymdeithaseg iaith, cynllunio ieithyddol, strwythuroliaeth, disgresiwn, pfier, llywodraethiant, safonau addysgol ac, i raddau llai, hawliau lleiafrifoedd. Un ffordd o ddatod y gwead yw ystyried y strwythurau y bydd yr actorion yn gweithredu ynddynt. Mae tair haen o strwythurau, sef y macro, y meso a'r micro. Dadleuir yn y gyfrol mai haenau cyfnewidiol yw'r rhain, ac y dibynna'r diffiniad ar y cyd-destun. Dirifedi yw'r actorion, ffaith sydd yn cymhlethu'r dadansoddi.

Bwriad y gyfrol yw canolbwyntio felly ar y prif ddylanwadau ar dwf yr ysgolion Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru, gan ddadlau mai'r rhieni yw'r prif actorion. O dderbyn y cysyniad o brif actorion, mae'n dilyn fod yna actorion eraill. Cydadwaith rhwng yr holl actorion yw sylwedd y gwaith, gan ddefnyddio canlyniadau ymchwil empirig i ddangos tueddiadau ac i ddatblygu theses, neu i brofi neu wrthbrofi theses a damcaniaethau eraill. Dadleuir bod yr actorion yn fwy pwerus na'r strwythurau. Heb amheuaeth, y rhieni yw'r prif actorion, a'u hymateb nhw yn bennaf, ac yn gwbl fwriadol, a greodd linyn arian drwy'r gwaith, datblygu ffocws, ac osgoi farrago o agweddau wedi'u taflu i'r pair academaidd. Arwyddocâd 'yn bennaf' yw bod agweddau amgenach nag ymateb y rhieni yn dylanwadu ar dwf yr ysgolion Cymraeg.


DIFFINIO YSGOLION CYMRAEG

Yn syml, ysgolion meithrin, cynradd neu uwchradd â'r Gymraeg yn iaith swyddogol ac addysgu ynddynt yw ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru. Derbynnir disgyblion o wahanol gefndiroedd ieithyddol, ond â'r mwyafrif llethol o gartrefi di-Gymraeg. Ysgolion trochi ydynt. Yn yr ysgolion cynradd (60 ohonynt ym Medi 2008, gan gynnwys tair ysgol dwy ffrwd a dwy uned), cyflwynir Saesneg ar y cwricwlwm pan yw'r disgyblion yn saith mlwydd oed. Ysgolion cyfun 11–18 yw'r sector uwchradd. Addysgir pob pwnc, ac eithrio Saesneg, drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o'r deg ysgol (2008), ond â mân eithriadau prin. Mae'r holl ddisgyblion yn rhugl ddwyieithog.


YSGOLION MEITHRIN

Heb gyfraniad yr ysgolion meithrin ac, ers 1971 Mudiad Ysgolion Meithrin, tlawd iawn, mae'n debyg, fyddai twf addysg Gymraeg, gan mai yn yr ysgolion meithrin y cafodd mwyafrif disgyblion ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru eu magwraeth ieithyddol. 'Allweddol' yw gair Roberts yn disgrifio cyfraniad MYM i dwf yr ysgolion Cymraeg (2003, 129).

Enfawr, felly, yw dyled yr ysgolion Cymraeg i'r feithrinfa allweddol hon yn hanes adfywiad yr iaith Gymraeg, ond nid ymdrinnir â'r dylanwad hwn yn y gyfrol hon, am dri phrif reswm:

1 Croniclwyd hanes MYM (1971–96) yng nghyfrol ysbrydoledig Catrin Stevens (1996), ac anodd crynhoi'r neges yn well nag yn y broliant: yr 'arweinwyr cenedlaethol a'r llu gwirfoddolwyr a swyddogion ar lawr gwlad, y mae cymaint o blant Cymru yn ddyledus i'w gweledigaeth a'u dyfalbarhad' a chyfraniad 'canolog Mudiad Ysgolion Meithrin at y frwydr barhaus i gynnig addysg feithrin ystyrlon i blant Cymru ac i osod seiliau cadarn ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg i'r mileniwm nesaf.'

2 Comisiynwyd SCYA gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i werthuso rhai agweddau ar waith MYM (Gorffennaf 2006–Chwefror 2007). Cynhwysir adolygiad o'r llenyddiaeth berthnasol, ymchwil ansoddol a dadansoddiad o'r data yn yr adroddiad (SCYA, 2007).

3 Anelir at gadw cydbwysedd yn y gyfrol rhwng ehangder a dyfnder, ac yn wyneb y ddau reswm blaenorol, penderfynwyd hepgor gwaith pellach ar gyfraniad allweddol yr ysgolion meithrin.


Er hynny, priodol yw cyfeirio at dwf y cylchoedd meithrin, o'r 65 a fodolai yn 1971 (Stevens, 1996, broliant) i'r 645 (a hefyd 407 o gylchoedd Ti a Fi) erbyn 1995 (Stevens, 1996, 173). Bellach darperir addysg feithrin yn helaethach gan ysgolion cynradd y wladwriaeth, ond, fel y dywed Stevens (1996, 179): 'Rhaid i'r momentwm a'r weledigaeth wreiddiol, ddi-ildio barhau, oherwydd nid yw'r gwaith wedi hanner ei orffen eto.'

Disgrifir nesaf dwf yr ysgolion Cymraeg yn ardal ddaearyddol yr astudiaeth, sef awdurdodau unedol Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd.


TWF YR YSGOLION CYMRAEG

Ysgolion cynradd Tyderwen, Maesteg, Ynys-lwyd, Aberdâr, ac Ysgol Gymraeg Caerdydd oedd yr ysgolion Cymraeg cyntaf i'w sefydlu gan gynghorau lleol yn y de-ddwyrain, a hynny yn 1949. Erbyn 2006 'roedd 49 o ysgolion Cymraeg cynradd, 5 uned gynradd a 9 ysgol uwchradd Gymraeg rhwng y deg awdurdod unedol. Ym Medi 2007 sefydlodd Cyngor Caerdydd bedair ysgol gynradd. Y flwyddyn ganlynol agorodd Caerffili a Chasnewydd un yr un, a sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ger Maesteg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Peny-bont ar Ogwr. 'Roedd y cynhaeaf yn un toreithiog, a'r gobeithion ar gyfer y dyfodol yn llawn addewid.

Rhestrir yr holl ysgolion yn Nhabl YC1 yn yr atodiad ar ddiwedd y gyfrol. Ceir manylion y twf yn y gyfrol Gorau Arf (I. W. Williams (gol.), 2002). Dengys Tabl 1.1 isod y twf fesul dalgylch pob ysgol uwchradd, ac fe'u trefnir yn ôl dyddiad sefydlu'r ysgol gynradd. Mae patrwm y twf yn gymhleth, gan mai Rhydfelen oedd yr unig ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer y de-ddwyrain rhwng 1962 a 1974, pan agorwyd Llanhari. Gellid dadlau, er enghraifft, fod 45 disgybl Maesteg yn 1949 wedi tyfu i 1,091 erbyn 2006, neu fod 34 disgybl Caerdydd a'r Fro (19 Caerdydd yn 1949 a 15 Sant Ffransis yn 1952) wedi tyfu i 2,644.

Cyfeiria'r Dr Sian Rhiannon Williams (2002, 120) at sefydlu ysgolion Cymraeg tua chanrif cyn Ysgol Lluest yn Aberystwyth (1939) neu Ysgol Dewi Sant Llanelli (1947), '[O]ne could argue that a school established in Llanwenarth, Monmouthshire, by the Abergavenny Cymreigyddion Society in 1837 was really the first.'

Byddai olrhain y twf fesul ysgol yn waith gwerthfawr, gan fod maint a chyflymdra'r twf dros gyfnodau gwahanol mewn ardaloedd gwahanol yn bur debygol o wahaniaethu, weithiau yn arwyddocaol iawn. Ar sail tystiolaeth fras, yr oedd yn debygol yr amlygai astudiaeth o'r fath ddylanwad elfennau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol, demograffig ac ymgyrchol ar y twf dros gyfnod a gofod. Oherwydd paramedrau'r astudiaeth, ystadegau cerrig-milltir a gyflwynir yn Nhabl 1.2 er mwyn dangos tueddiadau. Er mwyn gweld tueddiadau, cadwyd ardaloedd y tair sir cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1995. Defnyddiwyd ystadegau'r Swyddfa Gymreig, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gorau Arf,a thystiolaeth ysgolion neu awdurdodau addysg unigol er mwyn coladu'r data. Nodir i rai ysgolion megis Ysgol Bryntaf yng Nghaerdydd gau, ac esgor ar bedair ysgol newydd; trosglwyddwyd ysgolion i siroedd newydd wrth ad-drefnu llywodraeth leol, megis Gwaelod-y-Garth o Forgannwg Ganol i Gaerdydd, neu Ysgol Trelyn o Went i Gaerffili.


Ers sefydlu'r tair ysgol gyntaf yn 1949, bu'r twf yn gyson ar draws y de-ddwyrain: erbyn diwedd y chwarter canrif 1950–75 'roedd 28 o sefydliadau, a thros y chwarter canrif nesaf tyfodd y nifer i 60, a chyfanswm y disgyblion, yn 2007, i 21,989 (gweler Tabl YC2). Y ganrif hon sefydlwyd un ysgol bob blwyddyn, ar gyfartaledd, ac erbyn 2008 'roedd 70 o sefydliadau cyfrwng Cymraeg, ysgolion bron pob un ohonynt.

Bu twf yr ysgolion Cymraeg yn anwastad, o ran lleoliad ac amser, gyda Morgannwg Ganol yn arwain y ffordd tan 1985, a De Morgannwg a Gwent yn dilyn yn araf. Ond yn y chwarter canrif ers 1980 dyblodd nifer ysgolion Cymraeg Gwent, er bod y rhifau yn fychan. Dengys ardal ddaearyddol 'De Morgannwg' gynnydd o 7 ysgol rhwng 1990 a 2006, sef o leiaf un ysgol newydd bob tair blynedd. Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg felly y bu'r twf mwyaf dros y deng mlynedd diwethaf. O ran nifer yr ysgolion, ymddengys i ardal yr hen Forgannwg Ganol gyrraedd gwastatir, gan mai un ysgol gynradd a agorwyd yno rhwng 1995 a 2006, sef Ysgol Bro Sannan yn Aberbargod, Caerffili.

Ystyrir nesaf nifer y disgyblion. Yn Nhabl 1.3 mae'n debygol bod rhifau Gwent (1975) yn cynnwys disgyblion Prosiect Addysg Ddwyieithog y Cyngor Ysgolion, a thyfu, nid crebachu, yw felly gwir batrwm Gwent. Dros y cyfnod 1975–2005, cynnydd, ym mhob ardal a thros bob cyfnod, yw'r duedd gyffredinol, ond â gwahaniaethau amlwg. Er enghraifft, bu twf dramatig ym Morgannwg Ganol rhwng 1975 a 1990 o 104 y cant. Er y cynnydd mwy diweddar yn Ne Morgannwg o 46 y cant rhwng 1990 a 2005, nid yw'n cymharu â'r dyblu poblogaeth gynradd Gymraeg a ddigwyddodd yn y cymoedd.


Mae rhwng 95 y cant a 100 y cant o'r disgyblion cynradd Cymraeg yn parhau eu haddysg yn yr ysgolion uwchradd Cymraeg, ac ni welir gwaedlif ieithyddol fel yn ne-orllewin Cymru. (Weithiau bydd tangyfrifo niferoedd sy'n trosglwyddo o'r cynradd pan fo clerc AALl heb ystyried y trosglwyddo traws-sirol.) Dangosir data niferoedd disgyblion uwchradd yn y sector Cymraeg rhwng 2000 a 2006 yn Nhabl T4. Yn y cyfnod hwn, De Morgannwg a welodd y twf mwyaf, 47.4 y cant o'i gymharu â 21.8 y cant ar gyfer y de-ddwyrain cyfan. Ym Morgannwg Ganol, disgynnodd niferoedd dwy ysgol uwchradd yn ystod y cyfnod, y naill o 944 i 910 a'r llall o 1,117 i 1,081 – adlewyrchiad o'r newid demograffig lleol – ond tyfu y bu hanes y tair ysgol arall: y gyntaf o 799 i 945, yr ail o 646 i 903 a'r drydedd o 916 i 1,140.

Wrth ystyried y rhesymau am raddfeydd twf gwahanol dros amser a gofod, mae angen cofio i bobl Morgannwg Ganol frwydro'n llwyddiannus am hanner can mlynedd dros yr hawl i'w plant dderbyn addysg Gymraeg. Yn 2006, Rhondda Cynon Taf oedd â'r ganran uchaf o blant cynradd a addysgwyd yn y de-ddwyrain drwy gyfrwng y Gymraeg, sef 18.3 y cant; Caerffili oedd â'r ganran uchaf nesaf, sef 11.7 y cant. 'Roedd y ddwy ganran hyn yn is na'r ganran genedlaethol, sef 20.1 y cant (Tabl T6). Ai wedi blino y mae'r ymgyrchwyr, neu a yw'r awdurdodau addysg lleol yn llai cefnogol na chynt? Cofier i'r hen Forgannwg agor ysgolion â niferoedd bychain o blant ar eu llyfrau; ac ar hyn o bryd (Mawrth 2010) brwydro yw hanes pobl Cwm Cynon a'r ardal am ysgol Gymraeg newydd.

Rhwydd chwilio am fwch dihangol mewn ymgyrch, ond ymddengys na fu'r iaith Gymraeg yn un o flaenoriaethau lled ddiweddar Cyngor Rhondda Cynon Taf. Cynigir fel tystiolaeth y diffyg gweledigaeth o ran yr iaith Gymraeg yn y cynllun addysg sengl (Rhondda Cynon Taf, 2006), a'r brwydro gan rieni ar gyfer addysg Gymraeg yn ardal Abercynon, arwydd o ddiffyg blaengynllunio. Yn yr adran 'Delfryd a Gwerthoedd (Vision and Values)' (2006, 6), dywed y cyngor ei bod yn bwysig ymateb i 'a number of important overarching strategic leads.' Themâu 'The Learning Country' sy'n bwysig, meddid, oherwydd, 'Mae ei gwmpawd yn adlewyrchu ehanged ydy portffolio'r gweinidog sy'n cofleidio, mwy neu lai, popeth [sic] sy'n ymwneud â meysydd addysg a hyfforddiant.' Ar goll y mae unrhyw gyfeiriad at 'Iaith Pawb'.

Eironi hyn yw absenoldeb 'Iaith Pawb' o gynllun cyngor lleol oedd o'r un lliw gwleidyddol â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd. Blwyddyn cyn iddo gyhoeddi Achub Ein Hiaith (2006a), amlinellodd aelod blaenllaw o'r gymuned, Ken Hopkins, ei weledigaeth i fforwm polisi yn y Rhondda, pan oedd 40 aelod o'r Blaid Lafur yn bresennol. 'Doedd neb yn gwrthwynebu syniadau cyn-gyfarwyddwr addysg Morgannwg Ganol. Meddai mewn cyfweliad (27 Mehefin 2006): 'I'm on the right track ... with the party activists in the Rhondda.' Yn yr un cyfweliad dywedodd nad oedd 'Iaith Pawb' yn ddigon uchelgeisiol o ran targedau cynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg. Eironi pellach yw bod y cyngor yn cyfeirio at bortffolio hollgynhwysol (bron) y Gweinidog Addysg, ond gan anwybyddu bod yr iaith yn rhan o bortffolio pob Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad, yn ôl 'Iaith Pawb' (2003, 12), 'Rhaid i bob un o Weinidogion y Cynulliad [sic] a'u swyddogion rannu'r cyfrifoldeb am ddyfodol y Gymraeg a chymryd perchnogaeth dros ganfod a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r Gymraeg yn eu meysydd polisi.' Hon yw'r unig frawddeg gydol 'Iaith Pawb' sydd mewn llythrennau trwm; teg felly casglu bod iddi arwyddocâd arbennig iawn.


(Continues...)

Excerpted from Brwydr i Baradwys? by Huw S. Thomas. Copyright © 2010 Huw S. Thomas. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Ysgolion Uwchradd: Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri Ysgol Gyfun Gwyr, Abertawe Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili Ysgol Gyfun Y Cymer, Rhondda Ysgol Gyfun Gwynllyw, Torfaen Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd Ysgol Gyfun Llangynwyd, Maesteg Ysgol Gyfun Llanhari, Pontyclun Ysgol Gyfun Rhydfelen, Rhondda Cynon Taf Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdar Ysgol Gyfun Ystalyfera, Castell Nedd Ysgolion Cynradd: Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Eirwg, Caerdydd Ysgol Bro Sannan, Caerffili Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, Caerffili Ysgol Gynradd Gymraeg Cefn Coed, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Coed y Gof, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Derwen, Y Coed Duon Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant, Llanelli Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaelod-y-Garth, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Ifor Hael , Casnewydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llanwenarth, Sir Fynwy Ysgol Lluest/Gymraeg yr Urdd, Abersytwyth Ysgol Gynradd Gymraeg Mynydd Bychan, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pencae, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-groes, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton, Pontypridd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont-y-gwaith, Cwm Rhondda Ysgol Y Rhymni, Caerffili Ysgol Gynradd Gymraeg Sant Ffransis, Y Barri Ysgol Gynradd Gymraeg Tan yr Eos, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf Ysgol Gynradd Gymraeg Trelyn, Pengam Ysgol Gynradd Gymraeg Tyderwen/Cynwyd Sant, Maesteg Uned Risca, Gwent Ysgol Y Dderwen, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o'r Sger, Porthcawl Ysgol Y Wern, Caerdydd Ysgol Ynys-lwyd, Aberdar Ysgol Gymradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews