Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

eBook

$10.99  $12.99 Save 15% Current price is $10.99, Original price is $12.99. You Save 15%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Dyma’r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o’r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i’r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau’r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau’r Credo, ‘Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear’? Ac a fedrant goleddu’r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy’r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu’r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid ‘yr atheistiaeth newydd’ yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl – cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o’r naill yn cyfoethogi’n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i’n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy’n tarddu yn ei fwriad a’i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy’n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.


Product Details

ISBN-13: 9781786831286
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 05/25/2017
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 144
File size: 1 MB
Language: Welsh

Read an Excerpt

CHAPTER 1

Edrych yn Ôl: rhai trobwyntiau hanesyddol

Nodweddwyd y canol oesoedd (yn enwedig y cyfnod o'r unfed ganrif ar ddeg tan y bymthegfed ganrif) gan ddealltwriaeth ddaearganolog o'r bydysawd. Credwyd bod y ddaear yng nghanol y bydysawd ac, o ganlyniad, bod y sêr a'r planedau i gyd yn cylchdroi o'i chwmpas. Tarddai'r ddealltwriaeth hon o waith yr athronydd a'r seryddwr Helenistaidd Claudius Ptolemaeus (neu Ptolemy, tua 90–168 oc). Hon fu'r brif ddamcaniaeth gosmolegol mewn athroniaeth Gristnogol, Iddewig ac Islamaidd am fileniwm a mwy.

O bryd i'w gilydd, fe awgrymodd rhai athronwyr a seryddion (a Pythagoras (570–495 cc) yn eu plith) nad y ddaear ond yr haul oedd yng nghanol y bydysawd. Ni dderbyniwyd y damcaniaethau hynny. Y foment dyngedfennol oedd cyhoeddi De Revolutionibus Orbium Coelestium (Ar Dreiglau'r Nefol Gronellau) gan Nicolaus Copernicus (1473–1543) yn fuan cyn ei farwolaeth. Fe'i ganwyd yng Ngwlad Pwyl ac fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Krakow a phrifysgolion yn yr Eidal. Honnai Copernicus mai'r haul oedd yng nghanol y bydysawd a bod y sêr a'r planedau (gan gynnwys y ddaear) yn cylchdroi o'i gwmpas oddi mewn i'w cylchoedd eu hunain. Roedd y ddamcaniaeth haul-ganolog hon yn fygythiad sylfaenol i ddamcaniaeth ddaear-ganolog Ptolomy. Dadleuodd Copernicus nad oedd yn ofynnol, wrth geisio esbonio symudiadau'r planedau, i ragdybio fod y ddaear yn sefydlog yng nghanol y bydysawd ac y gellid cynnig esboniad gwell o berthynas y planedau â'i gilydd drwy ragdybio mai'r haul oedd yn y canol. Ni chafodd ei ddadleuon eu derbyn ar unwaith gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig oherwydd eu bod yn creu problemau sylfaenol mewn perthynas ag egwyddorion athroniaeth naturiol y cyfnod a fframwaith meddyliol y Beibl. Er hynny, cafodd y cyfnod meddyliol chwyldroadol hwn yn hanes cosmoleg ei alw'n gyfnod Y Chwyldro Copernicaidd.

Y datblygiad tyngedfennol a agorodd y drws i dderbyniad o'r damcaniaethau hyn oedd y gwelliannau i'r telesgop gan Galileo Galilei (1564–1642). Galluogodd hyn iddo ef ac eraill astudio'r planedau a'r sêr yn llawer manylach nag a fu'n bosibl yn y gorffennol. Gwelodd fod y ddamcaniaeth Gopernicaidd yn cynnig esboniad llawer mwy derbyniol o'r dystiolaeth weledig hon na'r ddamcaniaeth Ptolomeaidd, a dadleuodd yn gryf o'i phlaid. Am iddo seilio'i ddaliadau cosmolegol ar arsylwi gwyddonol fe'i galwyd (gan Stephen Hawking, er enghraifft) yn dad gwyddoniaeth gyfoes.

Yn 1610 condemniwyd Galileo Galilei gan ddau offeiriad i'r Chwilys Rhufeinig am ddaliadau a ystyriwyd yn hollol groes i'r athrawiaeth Gristnogol, i'r Traddodiad Catholig ac i dystiolaeth y Beibl. Ar y cychwyn, fe'i cafwyd yn ddieuog o unrhyw drosedd. Fodd bynnag, condemniwyd y ddamcaniaeth haul-ganolog gan Chwilys yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn 1616 am ei bod 'yn ffals ac yn groes i'r Ysgrythur'. Parhaodd Galileo i amddiffyn y safbwynt hwn ar waethaf rhybuddion yr Eglwys a hynny'n fwyaf arbennig yn ei gyhoeddiad mwyaf enwog, Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo (Deialog yngl}n â dwy brif system y byd), a gyhoeddwyd yn 1632. Fe'i dygwyd gerbron y Chwilys unwaith eto a'r tro hwn fe'i condemniwyd am heresi. Fe'i gorfodwyd i wadu ei honiad ac i dreulio gweddill ei fywyd mewn caethiwed yn ei gartref.

Nid oes amheuaeth, fodd bynnag, nad oedd Galileo yn arloeswr gwyddonol a diwinyddol. Cynrychiola'r chwyldro a ddechreuwyd gan Copernicus ac a gefnogwyd, yn ddiweddarach, gan Galileo, yng ngeiriau McGrath, 'ymadawiad radical oddi wrth y model blaenorol a rhaid ei ystyried yn un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol yn y ddirnadaeth ddynol o realiti a ddigwyddodd yn y mileniwm diwethaf'. Yr 'ymadawiad radical' hwn, wrth gwrs, oedd asgwrn y gynnen ac fe'i disgrifiwyd fel newydd-deb diwinyddol. Gwnaethpwyd hynny ar adeg pan oedd yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn chwilio'n egnïol am ffyrdd o ailddatgan y traddodiad Cristnogol er mwyn ymwrthod â datblygiad yr hyn a ddaethpwyd i'w alw'n Brotestaniaeth dan arweiniad Martin Luther, John Calvin, Huldrych Zwingli ac eraill. Dioddefodd Galileo'n bersonol yn yr ymgiprys hwn pan y'i cyhuddwyd o 'heresi drwy newydd-deb'. Felly, pam oedd y safbwyntiau newydd hyn mor chwyldroadol? A oeddent mewn gwirionedd yn herio'r safbwynt Cristnogol?

Roedd y damcaniaethau newydd hyn yn anodd iawn i ddiwinyddion a oedd wedi arfer â darllen y Beibl trwy lygaid daearganolog, a phob agwedd ar fodolaeth y cread yn canoli ar ein daear ni. Roedd angen model gwahanol o'r bydysawd a fyddai'n gyson â'r ddealltwriaeth wyddonol newydd. Datblygwyd y model yn nhermau cymhwysiad: y mae datguddiad yn ddiwylliannol ac anthropolegol amodol, felly rhaid ei ddehongli. Hynny yw, y mae Duw yn datguddio'i hun mewn termau sy'n ddealladwy ac o fewn cyrraedd pobl mewn unrhyw gyfnod arbennig. Yn ôl yr egwyddor hon, defnyddiodd awduron Genesis 1 a 2 iaith a delweddau'r dydd, a rhaid eu dehongli gan gydnabod eu bod wedi eu cymhwyso i'r gynulleidfa wreiddiol honno, rhai canrifoedd cyn Crist. Er enghraifft, roedd Calvin (1509–64) – yn groes i ddysgeidiaeth Babyddol y cyfnod – yn cymell astudiaethau gwyddonol o natur. Dadleuai yn erbyn dehongliad llythrennol o'r Beibl am ei fod o blaid y dull cymhwysol hwn o esbonio'r Beibl yn unol â deallusrwydd unrhyw gyfnod. Gwrthodwyd y safbwynt hwn gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig ar y pryd, gan ei bod yn dysgu y dylid esbonio'r Ysgrythur yn llythrennol, ac yng ngoleuni dysgeidiaeth y Tadau Cynnar a deallusion diwinyddol. Mewn gwirionedd, bu rhaid aros hyd 1992 cyn i'r Pab Ioan Pawl II fynegi edifeirwch yr Eglwys am ei hagwedd tuag at Galileo.

O ddechrau Oes yr Ymoleuo hyd heddiw, ymdebygodd achos Galileo i 'chwedl', gyda'r ddelwedd a luniwyd o'r digwyddiadau ymhell o fod yn ymdebygu i'r gwir. O fewn y fath bersbectif, tyfodd achos Galileo yn arwydd o wrthodiad honedig yr Eglwys o ddatblygiad gwyddonol, neu o dywyllwch athrawiaethol a oedd yn elyniaethus i unrhyw ymchwil am y gwirionedd. Cyfrannodd y chwedl hon yn sylweddol i'n diwylliant. Cynorthwyodd hefyd i wthio nifer o wyddonwyr o ffydd tuag at y cysyniad bod anghydnawsedd rhwng y ddelfryd wyddonol a'i rheolau ymchwil ar yr un llaw, a ffydd Gristnogol ar y llall. Dehonglwyd y methiant trasig i ddeall ei gilydd fel adlewyrchiad o wrthdrawiad sylfaenol rhwng gwyddoniaeth a ffydd. Caniatâ'r astudiaethau hanesyddol diweddaraf i ni ddatgan bod y camddealltwriaeth trist hwn bellach yn perthyn i'r gorffennol. Yn 2008, codwyd cerflun er cof am Galileo Galilei oddi fewn i furiau'r Fatican yn Rhufain yn arwydd fod damcaniaeth Galileo wedi ennill ei phlwyf, hyd yn oed yn niwinyddiaeth a thraddodiad yr Eglwys Gatholig Rufeinig, rhywbeth a oedd eisoes wedi digwydd yn niwinyddiaeth y prif draddodiadau Cristnogol eraill byd-eang.

Yng ngoleuni'r ddealltwriaeth wyddonol hon o symudiadau a chydberthynas y planedau a'r sêr, codwyd y cwestiwn: pa rymoedd sydd ar waith yn cadw'r bydysawd mewn bod? Gwnaeth Isaac Newton (1642–1727) ddau gyfraniad cysylltiedig allweddol i wyddoniaeth. Yn gyntaf, trwy'r Deddfau Mudiant a luniodd, sefydlwyd yr egwyddorion cyffredinol a oedd yn rheoli mudiant daearol, yn seiliedig ar gyflymiad, grym, momentwm a chyflymder. Deil y rhain yn gwbl sylfaenol hyd heddiw. Dadleuodd wedyn fod y deddfau hyn yn berthnasol hefyd i fudiant a mecaneg cyrff yn y ffurfafen. Yn 1609 ac 1619 cyhoeddodd Johannes Kepler (1571–1630) ddeddfau yn ymwneud â mudiant planedau; roedd y rhain eto yn herio modelau daear-ganolog Ptolemy ac yn cefnogi damcaniaeth haul-ganolog Copernicus. Ynghyd â honni bod y ddaear yn cylchdroi o amgylch yr haul, gellid hefyd eu defnyddio i brofi bod cyflymder y planedau yn amrywio ac mai eliptig oedd eu taith orbitol. Dangosodd Newton sut y gellid esbonio deddfau mudiant y planedau ar y sail mai'r grym sy'n tynnu gwrthrychau tuag at y ddaear sydd hefyd yn dal y planedau yn eu cylchdroeon o amgylch yr haul, egwyddor a oedd yn dal ei thir mewn perthynas â'r holl blanedau. Cafodd y ddeddf hon ei hadnabod fel Deddf Disgyrchiant Cyfanfydol (Universal Law of Gravity). Fe'i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1687 yng nghyfrol Newton, Philosophiæ Naturalis Principia Mathematica (Egwyddorion Mathemategol Athroniaeth Naturiol). Y mae'r ddeddf hon yn datgan fod y grym sy'n denu unrhyw ddau wrthrych yn y bydysawd at ei gilydd yn uniongyrchol gymesur â chynnyrch eu màs ac mewn cyfrannedd gwrthdro â'r pellter rhyngddynt.

Canlyniad mabwysiadu'r egwyddorion hyn oedd y gellid gweld y bydysawd fel peiriant mawr, yn gweithredu yn unol â deddfau gosodedig. Dyma'r byd-olwg mecanyddol. Y mae goblygiadau diwinyddol hyn yn amlwg: os oes peiriant, rhaid bod cynllun. Os oes cynllun, rhaid bod cynllunydd gyda bwriad. Yn ôl yr offeiriad a'r apolegydd William Paley (1743–1805), gallwn edrych ar gywreinrwydd rhyfeddol gwneuthuriad cymhleth yr oriawr a sylweddoli fod ei ryfeddod a'i effeithiolrwydd yn wyrth. Credai Paley nad oedd esboniad i hyn heblaw bod cynllunydd deallus a chywrain y tu cefn i'r ddyfais hon. Os oedd cread, rhaid oedd wrth Grëwr.

Fodd bynnag, roedd y ddealltwriaeth Newtonaidd, tra'n caniatáu lle i Grëwr yn unol â'r athrawiaeth Gristnogol, yn awgrymu bydysawd mecanyddol, sef, bydysawd a oedd wedi'i greu ond a oedd yn parhau mewn bodolaeth heb ymyrraeth Crëwr. Deïstiaeth yw hyn, sef, y gred fod Duw wedi creu'r bydysawd ond ei fod yn gadael y bydysawd i'w rawd heb ymyrryd ynddo na bod yn bresennol ynddo. Y gwrthwyneb i'r gred hon yw theistiaeth, sy'n honni bod Duw wedi creu'r bydysawd a'i fod ar waith o hyd yn ei gynnal a'i ddwyn i'w gyflawnder. Beirniadwyd deïstiaeth am wneud Duw yn ddim mwy na gwneuthurwr cloc.

Yn wyneb hyn, erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y cwestiwn allweddol oedd: os gellir cau Duw allan o beirianwaith y bydysawd onid oes lle i Dduw o hyd yng nghynllun a gweithgarwch byd bioleg? Sut y daeth bywyd ar y blaned hon i gymryd y ffurf sydd iddo? Y ddau berson allweddol mewn perthynas â'r datblygiadau hyn oedd Charles Darwin (1809–82) ac Alfred Russel Wallace (1823–1913).

Cyn i Darwin, Wallace ac eraill gyflwyno'u damcaniaethau, roedd dau brif ateb i'r cwestiwn hwn. Yr ateb cyntaf oedd unffurfiaeth (uniformity) a ddatblygwyd yn bennaf gan James Hutton (1726–97) a Charles Lyell (1797–1875). Sail y ddamcaniaeth hon oedd bod yr un grymoedd a welir yn awr ar waith yn naeareg a bioleg y bydysawd wedi bod yn weithredol yn y byd naturiol drwy gydol oesau hir y gorffennol. Yn aml, crynhoir y ddamcaniaeth hon fel hyn: y presennol yw'r allwedd i'r gorffennol. Yr ail ateb oedd Sefydlogrwydd Rhywogaethau (Fixity of Species) sydd yn ddyledus yn bennaf i'r naturiaethwr Swedaidd, Carl von Linne (sy'n fwy adnabyddus fel Linnaeus; 1707–78). Yn y ddamcaniaeth hon mae amrywiaeth presennol byd natur yn cynrychioli patrwm rhywogaethau'r gorffennol a'r modd y byddant yn parhau i fodoli yn y dyfodol. Hynny yw, dadleuai Linnaeus, yn wreiddiol, fod natur yn ddigyfnewid o foment ei darddiad ac nad oedd rhywogaethau newydd. Fodd bynnag, fe newidiodd ei feddwl yn ddiweddarach yn ei fywyd a chasglu, o ganlyniad i'w astudiaethau ar blanhigyn arbennig, fod rhywogaethau newydd wedi dod i fod drwy groesiadau rhwng rhywogaethau a grëwyd gan Dduw: 'Y mae'n amhosibl amau fod rhywogaethau newydd yn cael eu cynhyrchu drwy ymgenhedlu hybrid.' O ganlyniad dileodd ei fandra hir-dymor, Nullae species novae (Dim rhywogaethau newydd), o'r deuddegfed argraffiad o'i Systema Naturae (1766).

Mae'n amlwg fod y ddau ateb hyn yn cydweddu'n dda â'r ddealltwriaeth draddodiadol a phoblogaidd o storïau'r creu yn Genesis: gellid ystyried bod ffurfiau'r bydysawd a phob rhywogaeth wedi eu creu'n benodol gan Dduw. Fodd bynnag, roedd problemau gyda'r esboniad hwn. Y mae'n amlwg fod angen i unrhyw ddamcaniaeth am darddiad rhywogaethau esbonio nifer o nodweddion. Y cyntaf yw Addasiad, sef, y modd y mae ffurfiau gwahanol wedi'u haddasu i'w hamgylchfyd a'u hanghenion. Yr ail yw Diflaniad Rhywogaethau: pam y diflannodd rhai rhywogaethau a oedd wedi eu haddasu? Y trydydd yw Dosbarthiad Daearyddol Anghyson: pam bod rhai rhywogaethau i'w gweld mewn rhannau arbennig o'r blaned ond nid mewn mannau eraill? Yr olaf yw Strwythurau Gweddilliol: pam bod rhai organau'n parhau mewn ffurfiau gweddilliol er nad oes ganddynt unrhyw ddiben?

O ganlyniad i'w deithiau a'i ymchwil manwl ac enwog, aeth Darwin ati i gynhyrchu esboniad a oedd yn rhoi cyfrif am yr arsylwadau hyn. Dadleuodd dros ddethol naturiol yn ei waith creiddiol, On the Origin of Species by Means of Natural Selection. Y mae amrywiaethau'n codi oddi fewn i natur. Os yw'r amrywiaeth newydd yn fwy abl i oroesi i'r dyfodol, y mae'r ffurf yn parhau, a'i nodweddion yn cael eu trosglwyddo i'r cenedlaethau sy'n dilyn. Dyma broses dethol naturiol a goroesiad y mwyaf addas (the survival of the fittest). Y ddwy egwyddor hyn yw sylfaen Damcaniaeth Darwin. Y mae pob rhywogaeth – yn cynnwys dynolryw – yn ganlyniad proses hir a chymhleth o esblygiad biolegol, term a ddefnyddiwyd yn wreiddiol yn y cyd-destun hwn yn 1762 gan Charles Bonnet (1720–93) ac a ddefnyddiwyd unwaith yn unig gan Darwin ei hunan ar ddiwedd ei Origin of Species i ddisgrifio'i ddamcaniaethau.

Ganed Wallace, a luniodd ddamcaniaeth detholiad naturiol yn annibynnol ar Charles Darwin, ym Mrynbuga. Yn 1848 cychwynnodd ar daith i Dde America gyda'i gyfaill o gyd-naturiaethwr, Henry Walter Bates (1825–92). Ffrwyth ei gyfnod o bedair blynedd yno oedd Palm Trees of the Amazon and their uses (1853) ac A narrative of travels on the Amazon and Rio Negro (1853). Rhwng 1854 ac 1862 bu yn y Dwyrain Pell, yn Archipelago Maleia. Tra bu yno lluniodd ei ddamcaniaeth esblygiad, yn gyfamserol ag eiddo Charles Darwin ond yn annibynnol arni. I sicrhau na fyddai Darwin yn dod yn ail yn y 'ras' esblygiadol, trefnodd dau o'i gyfeillion (Lyell yn un ohonynt) i'r ddau fersiwn o'r ddamcaniaeth gael eu cyflwyno yn yr un cyfarfod o'r Gymdeithas Lineaidd ar 1 Gorffennaf 1858. Cyhoeddodd Wallace ei syniadau yn ei lyfr Contributions to the Theory of Natural Selection (1870). Cyfraniad mawr arall Wallace oedd ei waith bioddaearyddol a grynhowyd yn ei ddau lyfr The Geographical Distribution of Animals (1876) ac Island Life (1880). Sonnir amdano weithiau fel 'Tad Bioddaearyddiaeth' ac mewn teyrnged iddo yn y maes hwn fe gyfeirir o hyd at y 'Wallace Line ' yn nwyrain Asia – y llinell ddychmygol a ddynodwyd gan Wallace i wahaniaethu rhwng rhywogaethau 'Awstralaidd' a rhai 'Asiaidd'.

Y mae goblygiadau diwinyddol y damcaniaethau hyn yn amlwg a buont, fel sy'n ddigon hysbys, yn achos cweryla enfawr. Yn draddodiadol, dysgai Cristnogaeth fod dynolryw wedi ei neilltuo oddi wrth rywogaethau eraill, yn uchafbwynt bwriadau'r Crëwr ac yn dwyn delw Duw. Roedd damcaniaethau Darwin a Wallace, ar y llaw arall, yn dal fod dynolryw, fel rhywogaethau eraill, wedi ymddangos yn raddol ac nad oedd unrhyw wahaniaeth biolegol sylfaenol rhyngom a'n hynafiaid agosaf, yr epaod. Canlyniad hyn oedd dadlau ffyrnig. Afraid dweud bod y dadleuon hyn yn dal yn hyfyw a hynny ar seiliau nid annhebyg i eiddo'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef, sut y mae cysoni damcaniaethau esblygiad bywyd â chred yn awdurdod y Beibl ac athrawiaeth llythrenolrwydd?

Yn y tri achos hyn bu dadleuon mawr rhwng gwyddoniaeth, diwinyddiaeth draddodiadol ac egwyddorion esboniadaeth feiblaidd. Yn y tri achos, ar waethaf y dadleuon, fe addaswyd diwinyddiaeth er mwyn ei chymhwyso, yn hwyr neu'n hwyrach, i ddamcaniaethau a oedd yn wyddonol dderbyniol. Datblygodd diwinyddiaeth mewn ymateb i gynnydd mewn gwybodaeth wyddonol. Nid oedd pawb ac nid yw pawb yn derbyn y damcaniaethau gwyddonol. Fodd bynnag, yn wyneb y dadlau chwyrn a fu mewn perthynas â gwaith Galileo yn yr unfed ganrif ar bymtheg, y mae o'r arwyddocâd mwyaf fod y Catecism Catholig diweddaraf (1992), er enghraifft, yn cadarnhau pwysigrwydd y datblygiadau hyn:

Bu'r cwestiwn am darddiadau'r byd a'r ddynolryw yn wrthrych nifer o ymchwiliadau gwyddonol sydd wedi cyfoethogi'n gwybodaeth am oed a maint y cosmos, datblygiad ffurfiau bywyd ac ymddangosiad y ddynolryw. Y mae'r darganfyddiadau hyn yn ein gwahodd i edmygedd mwy fyth o fawredd y Crëwr, ac yn ein cymell i roi diolch am ei holl waith ac am y ddealltwriaeth a'r ddoethineb y mae'n eu rhoi i ysgolheigion ac ymchwilwyr.

Etifeddodd yr ugeinfed ganrif yr holl chwyldro hwn ond creodd ei chwyldro dramatig ei hun yn ogystal. Er enghraifft, bu Damcaniaeth Cwantwm yn chwyldroadol yn ei dylanwad ar ein dealltwriaeth o natur mater ac atomau. Ni ellir mwy (fel y credwyd yn nechrau'r ugeinfed ganrif) wneud modelau dilys a digonol o strwythurau atomig na rhagweld eu hymddygiad mewn modd absoliwt. Y mae Damcaniaeth Ansicrwydd yn codi nifer o gwestiynau diwinyddol sylfaenol, megis am le rhagluniaeth a llywodraeth Duw mewn byd o ansicrwydd.

(Continues…)



Excerpted from "Cristnogaeth a Gwyddoniaeth"
by .
Copyright © 2017 Noel A. Davies a T. Hefin Jones.
Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Rhagarweiniad Pennod 1: Edrych yn ôl: rhai trobwyntiau hanesyddol Pennod 2: Gwyddoniaeth a diwinyddiaeth: rhai seiliau athronyddol Pennod 3: Y Glec Fawr, y cread a Duw Pennod 4: Siawns, cynllun ac anghenraid Pennod 5: Darwin, DNA a Duw Pennod 6: Biotechnoleg a datblygiadau meddygol Pennod 7: Y natur ddynol Pennod 8: Glendid maith y cread: Cristnogion a’r amgylchedd Pennod 9: Credwn yn Nuw Llyfryddiaeth Ddethol Cyfeiriadaeth
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews