Y Rhawnbais
Premium Members save an extra 10% and all Members collect stamps to save with Rewards. 10 stamps = $5.
Wedi dod i'r casgliad mai dyma'r ffordd orau o gofnodi'r holl hanas. Fel hyn. Nid adrodd y stori fel stori, ond ei hadrodd am yn ôl, neu am i lawr, neu beth bynnag yw'r ymadrodd cywir. Trychu a dadorchuddio gan amlygu'r holl stori fesul haen. Mae hynny'n digwydd; mae'n ffordd eithaf cyffredin o gael at y gwirionedd, beth bynnag yw'r gwirionedd dan sylw. Ond dyna'r holl bwynt: bod y sylw(edd) dan sylw ac o dan sawl haen o ystyr, ac weithiau o dan haen o sbwriel a rwtsh y mae angen ei symud o...


